John Jones (Pyll)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Jones
Ffugenw Pyll Edit this on Wikidata
Ganwyd 7 Mai 1786 Edit this on Wikidata
Trefriw Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd 7 Mai 1786 Edit this on Wikidata
Bu farw 19 Mawrth 1865 Edit this on Wikidata (78 oed)
Llanrwst Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Bardd, argraffydd, llyfrwerthwr, rhwymwr llyfrau Edit this on Wikidata
Plant Evan Jones Edit this on Wikidata
Perthnasau Dafydd Jones o Drefriw Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw, gweler John Jones (tudalen wahaniaethu).

Argraffydd, cyhoeddwr a bardd oedd John Jones (tua diwedd Ebrill neu ddechrau Mai 178629 Mawrth 1865)[1], a adwaenir gan amlaf fel John Jones, Llanrwst neu wrth ei enw barddol Pyll. Roedd yn ŵyr i'r argraffydd arloesol Dafydd Jones o Drefriw. Cyhoeddodd sawl llyfr a argraffwyd ganddo ar y wasg argraffu a adeiladwyd ganddo ei hunan; mae'r llyfrau unigryw hynny yn cynnwys y llyfrau Cymraeg lleiaf a argraffwyd erioed a'r llyfr byd natur Faunula Grustensis (1830) gan John Williams.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed John Jones yn fab i Ismael a Jane Davies (mabwysiadwyd y cyfenw Jones wedi hynny) tua diwedd mis Ebrill neu ddechrau Mai yn y flwyddyn 1786; ni chofnodir ei eni ond fe'i bedyddwyd ar y 7fed o Fai, 1786. 'Bryn Pyll' oedd enw y tyddyn ger Trefriw lle y'i ganed a chymerodd yr enw barddol 'Pyll' oherwydd hynny.[1]

Pan oedd yn llanc prentiswyd ef yn ôf mewn gefail leol ond yn 1817 bu farw ei dad, Ismael Jones, cymerodd drosodd ei fusnes argraffu. Aeth ati i ail-drefnu'r busnes. Rhoddodd heibio'r hen argraffwasg, a etifeddasid gan ei dad o Ddafydd Jones, a chynllunio ei wasg ei hun.[2]

Yn 1825 symudodd i Lanrwst gan sefydlu ei wasg yn y dref ac yno y bu hyd ei farw yn 1865, yn 79 oed. Bellach mae argraffwasg John Jones yn grair yn Yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Ne Kensington, Llundain.[1]

Bardd[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd John Jones neu "Pyll" yn fardd pur adnabyddus yn ei ddydd. Ei gerdd fwyaf poblogaidd oedd 'Myfyrdod ar Lanau Conwy' (sic), a argraffwyd am y tro cyntaf - gan John Jones ei hun neu gan ei dad efallai - yn y gyfrol Blwch Caniadau (Trefriw, 1812) ac a argraffwyd sawl gwaith mewn blodeugerddi poblogaidd ar ôl hynny.[1]

Llyfrau[golygu | golygu cod y dudalen]

Wynebddalen Faunula Grustensis

Cyhoeddodd John Jones sawl llyfr, pamffled baled ac almanac yn ystod ei yrfa. Dyma ddetholiad:

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Gerald Morgan, Y Dyn a Wnaeth Argraff (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1982).
  • E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1947)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Gerald Morgan, Y Dyn a Wnaeth Argraff (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1982).
  2. E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1947)