Absalom Roberts
Absalom Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 1780 Trefriw |
Bu farw | 1864 Llanrwst |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, crydd |
Bardd o Gymru oedd Absalom Roberts (tua 1780 – 1864), sy'n adnabyddus yn bennaf fel awdur casgliad argraffiedig cynnar o'r Hen Benillion ac am y gerdd "Trawsfynydd".
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Absalom Roberts ym mhlwyf Trefriw yn Sir Gaernarfon (yn Sir Conwy rwan) tua'r flwyddyn 1780. Ychydig a wyddom am fanylion ei fywyd personol. Crydd oedd Absalom wrth ei alwedigaeth. Fel nifer o grefftwyr gwledig eraill yn y cyfnod hwnnw, crwydrai o gwmpas gogledd Cymru yn dilyn ei grefft. Dychwelodd i fyw yn Nyffryn Conwy ar ddiwedd ei oes gan ymsefydlu'n gyntaf ym mhlwyf Eglwys-bach ac wedyn yn Llanrwst lle bu farw yn 1864.[1][2]
Bardd a chasglwr
[golygu | golygu cod]Roedd Absalom yn gasglwr brwd o hen benillion Cymraeg a byddai'n eu lloffio ar hyd ei oes. Enillodd wobr am y casgliad gorau o hen benillion yn Eisteddfod Dinbych 1828. Yn 1845 cyhoeddwyd y casgliad yn y llyfr Lloches Mwyneidd-dra, sy'n cynnwys carolau Cymraeg ac englynion yn ogystal; ceir rhai o gerddi Absalom ei hun yn eu plith, yn cynnwys y gerdd "Trawsfynydd".[1] Mae arddull yr hen benillion a'r penillion telyn yn drwm ar y gerdd hon a cherddi eraill ganddo.[2]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Lloches Mwyneidd-dra. John Jones, Llanrwst. 1845.
Cyhoeddwyd y gerdd "Trawsfynydd" mewn sawl blodeugerdd Gymraeg yn cynnwys:
- W. J. Gruffydd, Y Flodeugerdd Gymraeg (1931)
- Bedwyr Lewis Jones (gol.), Blodeugerdd o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Aberystwyth, 1965).
- Thomas Parry (gol.), Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg (Gwasg Prifysgol Rhydychen)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Bedwyr Lewis Jones (gol.), Blodeugerdd o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Aberystwyth, 1965). Nodiadau.
- ↑ 2.0 2.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).