Neidio i'r cynnwys

Iesu!

Oddi ar Wicipedia
Iesu!
Enghraifft o:drama lwyfan Gymraeg
AwdurAled Jones Williams
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi2008 Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaTheatr Genedlaethol Cymru
Dynodwyr

Drama Gymraeg gan Aled Jones Williams yw Iesu!, a berfformiwyd am y tro cyntaf yn Theatr Sherman Cymru, Caerdydd ar 5 Awst 2008 yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a'r Cylch gan Theatr Genedlaethol Cymru. Cyfarwyddwr y ddrama oedd Cefin Roberts ac roedd yr actorion yn cynnwys myfyrwyr o Ysgol Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau, Coleg y Drindod, Caerfyrddin. [1] Mae'r ddrama wedi profi i fod yn un dadleuol iawn, oherwydd ei fod yn portreadu Iesu fel merch. Cysidrwyd hyn gan nifer o grŵpiau Cristnogol i fod yn gableddus, tra bod eraill yn croesawu'r ddrama fel un a oedd yn peri i bobl feddwl ymhellach.[2] Cyhoeddwyd y sgript ar ffurf llyfr clawr meddal gan Wasg Gomer yn 2008.

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Yn dilyn cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Siwan yn 2008, hysbysebwyd eu "drama newydd ddadleuol" yng nghefn y Rhaglen.[3] Eu disgrifiad o'r ddrama cyn yr ymarfer oedd "Mater gwleidyddol yw crefydd bellach, yn dilyn trasiedi Efrog Newydd [2001] a rhyfeloedd y Dwyrain Canol. Wedi'i lleoli yn y presennol, bydd Iesu! yn edrych, o'r newydd, ar gymeriad hanesyddol pwysig mewn sefyllfa gyfoes".[3]

Noda'r dramodydd a'r cyn-ficer Aled Jones Williams mai "Blondan oedd Iesu Grist erioed i mi!" yn ei gyflwyniad yn Rhaglen y cynhyrchiad.[4] Aeth ymlaen i sôn am y "llun androgynaidd ar glawr The Children's Bible : wyneb dynddynas golygus iawn, y gwallt melyn hir, cwarfrog a'r llygaid glas; y croen, wrth reswm, yn Ewropeaidd wyn."[4] Aeth ymlaen i nodi mai "Cymraeg oedd ei hiaith hi" ac mai cyfeirio at capel ei rieni ym Mlaenau Ffestiniog oedd y "Jeriwsalem" yn Y Beibl, ac mai ardaloedd yn Eryri oedd yr enwau eraill fel "Nebo", "Nasareth" a "Cesarea".[4] Dadleua mai "Tabula Rasa" ydi Iesu, sef bod pawb "yn peintio'i lun ei hun arni", ac mai "ffuglen yw'r cyfan".[4]

"Chwilio hefo geiriau ydwi i, fel y mae rhai'n defnyddio fflachlamp. Chwilio am Iesu ar y llwyfan gwag. Chwilio sut y mae gwleidyddion fel Peilat a Caiaffas yn troi dŵr pethau i'w melinau eu hunain. Herod, wedyn, yn adeiladu Sefforis - Dubai y cyfnod - gan greu tlodi enbyd yn y broses."[4]

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Theatr Genedlaethol Cymru yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a'r Cylch 2008. Cyfarwyddwr Cefin Roberts; cynllunydd Guto Humphreys; goleuo Ace McCarron; cyfansoddwr Jochen Eisentraut; cyfarwyddwr ymladd Kevin McCurdy. Cast

  • Herod - Dafydd Emyr
  • Salome - Sioned Wyn
  • Iesu - Fflur Medi Owen
  • Peilat - Dafydd Dafis
  • Caiaffas - Llion Williams
  • Jiwdas - Gareth ap Watkins
  • Ceffas - Llŷr Ifans
  • Disgybl a Milwr - Matthew Lloyd
  • Milwr ac Ymerawdwr - Dorien Thomas
  • Corws : Martina Davies, Osian Llewelyn Edwards, Gwydion Rhys Griffiths, Ifan Gwilym Jones, Lisa Jones, Rheon Llugwy Jones, Rhian Elin Jones, Lisa Marged, Dylan Rhys Parry, Siân Eleri Price, Gareth Wyn Roberts a Lynwen Haf Roberts.

Cyferiadau

[golygu | golygu cod]
  1. Tri Dramodydd Cyfoes: Meic Povey, Siôn Eirian ac Aled Jones Williams Archifwyd 2022-09-15 yn y Peiriant Wayback – Traethawd doethuriaeth Manon Wyn Williams, Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor Hydref 2015
  2. Hywel Trewyn, Porthmadog priest portrays Jesus as woman, Daily Post, 16 Gorffennaf 2008 [1]
  3. 3.0 3.1 Rhaglen Siwan. Theatr Genedlaethol Cymru. 2008.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 Rhaglen Iesu!. Theatr Genedlaethol Cymru. 2008.