Neidio i'r cynnwys

Merched Eira (drama)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Merched Eira a Chwilys)
Merched Eira
Enghraifft o:gwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurAled Jones Williams
CyhoeddwrGwasg Carreg Gwalch
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi21 Gorffennaf 2010 Edit this on Wikidata
PwncDramâu Cymraeg
Argaeleddmewn print
ISBN9781845273095
Tudalennau96 Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Drama lwyfan Gymraeg gan Aled Jones Williams yw Merched Eira.[1] Cyhoeddwyd y ddrama, ynghyd â Chwilys, mewn cyfrol gan Wasg Carreg Gwalch yn 2010. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[2] Llwyfannwyd y ddwy ddrama am y tro cyntaf gan Theatr Bara Caws ar y cyd â Theatr Tandem yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a'r Cymoedd 2010.

Disgrifiad byr

[golygu | golygu cod]

Drama dyner, doniol-drist yw Merched Eira sy'n adrodd hanes Edith ac Edna sy'n anelu am wyliau ar draethau heulog ond sy'n cael eu hunain mewn anialwch eira. Mae'r ddrama yn archwilio themâu o unigrwydd a brad. "Ai eira sydd yma 'ta cymylau?" holodd yr adolygydd theatr Paul Griffiths yn Y Cymro yn 2010; "Rhaid chwarae ar yr amwysedd, yn yr un modd ag y mae Aled yn chwarae ag ystyr geiriau," ychwanegodd.[3]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Edith
  • Edna

Cynyrchiadau Nodedig

[golygu | golygu cod]
Gaynor Morgan Rees ac Olwen Rees yn Merched Eira 2010

Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Theatr Bara Caws yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a'r Cymoedd 2010. Gaynor Morgan Rees ac Olwen Rees oedd yn portreadu'r ddwy ffrind, gyda Bryn Fôn yn cyfarwyddo.

"Merched Eira fydd yn aros gyda mi ar ôl yr Eisteddfod eleni," meddai Paul Griffiths, adolygydd theatr Y Cymro ar y pryd, "a hynny fwyfwy wrth imi barhau i ail ddarllen y geiriau. [...] Mae yma wyryf o glasur anorffenedig arall o eiddo Aled, sy’n ysu am gynhyrchiad teilwng, gonest a mentrus o’i waith," ychwanegodd.[3]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Tri Dramodydd Cyfoes: Meic Povey, Siôn Eirian ac Aled Jones Williams Archifwyd 2022-09-15 yn y Peiriant Wayback – Traethawd doethuriaeth Manon Wyn Williams, Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor Hydref 2015
  2. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
  3. 3.0 3.1 Griffiths, Paul (2010-08-27). "Paul Griffiths: 'Chwilys' a 'Merched Eira'". Paul Griffiths. Cyrchwyd 2025-07-28.