Ysgol Brynaerau
Gwedd
| Math | ysgol Gymraeg |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Caernarfon |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.04138°N 4.325909°W |
| Cod post | LL54 5BU |
![]() | |
Ysgol gynradd gyfrwng Gymraeg yn ardal Arfon, Gwynedd yw Ysgol Brynaerau. Fe'i lleolir ar safle rhwng Clynnog Fawr a Phontllyfni, Dyffryn Nantlle. Mae'n rhan o dalgylch Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes. Roedd gan yr ysgol 62 o ddisgyblion ar y gofrestr yn 2015.[1] Yn ôl arolwg diweddaraf Estyn a gynhaliwyd yn 2013, daw 77% o’r disgyblion o gartrefi lle mae’r Gymraeg yn brif iaith, o'i gymharu â 57% o ddisgyblion yn yr arolwg cynt yn 2007.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [dolen farw] Fy Ysgol Leol
- ↑ [dolen farw] Adroddiad Arolygiad Ysgol Brynaerau 2013 a 2007. Estyn.
