Afon Dwyfach

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Afon Dwyfach
Afon Dwyfach at Pont y Felin - geograph.org.uk - 182902.jpg
Math dyfrffos neu sianel naturiol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru

Afon yng Ngwynedd yw Afon Dwyfach. Ei hyd yw tua 8 milltir. 'Dwyfech' oedd yr hen ffurf ar yr enw, a chymerodd y bardd Morus Dwyfech (Morus ap Dafydd ab Ifan ab Einion: bl. 1523–1590) ei enw barddol ohoni.

Tardda'r afon mewn cors eang ym mhlwyf Clynnog nepell o Fwlch Derwin. Llifa i gyfeiriad y de heibio pentrefi bychain Bryncir, Glan Dwyfach, a Rhoslan. Rhed yr A487 ar hyd ei glan ddwyreiniol rhwng Clynnog Uchaf a Glan Dwyfach.

Tua milltir o'r môr mae Afon Dwyfor yn ymuno â hi, ychydig cyn iddi gyrraedd y môr i'r de o bentref Llanystumdwy ac i'r gorllewin o dref Cricieth, gan aberu ym Mae Tremadog.

WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato