Lôn Las Cymru
Gwedd
| Math | long-distance cycling route |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.309°N 4.633°W |
![]() | |
Mae Lôn Las Cymru yn llwybr beiciau sydd tua 250 milltir neu 400 cilometr o hyd, yn rhedeg ar draws Cymru. Mae llwybr rhif 42 yn rhan o Rwydwaith Seiclo Cenedlaethol Sustrans.
Mae gan y llwybr ddau bwynt cychwyn yn y de: Caerdydd a Chas-gwent. Mae'r ddau lwybr cychwynnol yn ymuno yn Llanfair-ym-Muallt ac yn teithio drwy Llanidloes, Machynlleth, Abermaw, Cricieth, Caernarfon, a Bangor gan orffen yng Nghaergybi, Ynys Môn.
Mae darnau o'r llwybr yn dilyn gwely hen draciau rheilffyrdd megis Lôn Las Menai, Lôn Eifion, Llwybr Mawddach a Llwybr Taf.
Llwybr Caerdydd
[golygu | golygu cod]Mae hon yn cynnwys Llwybr Taf o Gaerdydd.
