A497

Oddi ar Wicipedia
A497
Mathffordd dosbarth A Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9098°N 4.3308°W Edit this on Wikidata
Hyd20 milltir Edit this on Wikidata
Map

Priffordd ar Benrhyn Llŷn yng Ngwynedd yw'r A497. Mae'n arwain o Borthmadog i Nefyn.

O'i chyffordd gyda'r A487 ym Mhorthmadog, mae'n arwain tua'r gorllewin ar hyd arfordir deheuol Llŷn trwy Cricieth i Bwllheli, yna'n troi tua'r gogledd i gyrraeth arfordir gogleddol Llŷn yn Nefyn. Mae'r rhan rhwng Abererch, rhyw filltir i'r dwyrain o Bwllheli, a Llanystumdwy, ychydig i'r gorllewin o Gricieth, wedi ei gwella'n sylweddol yn ddiweddar, ac mae'r Cynulliad yn bwriadu uwchraddio'r ffordd rhwng Porthmadog a Phwllheli yn y blynyddoedd nesaf.

Yr A497 yng Nghricieth.