Afon Lleiniog
Afon Lleiniog ger Castell Aberlleiniog | |
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.290763°N 4.072646°W |
Un o afonydd Môn yw Afon Lleiniog, sy'n llifo yn ne-ddwyrain yr ynys. Mae'n llifo i Afon Menai rhwng Penmon a Biwmares. Ei hyd yw tua 5 milltir.
Cwrs
[golygu | golygu cod]Mae ei phrif darddle gerllaw bryngaer Bwrdd Arthur, rhwng Llanddona a Mariandyrys. Mae'n dilyn cwrs troellog i gyfeiriad y de ac wedyn i'r dwyrain gyda sawl ffrwd llai yn llifo iddi erbyn cyrion Llangoed, lle daw ei phrif lednant, Afon Brenin i lawr o gyfeiriad y gogledd. Oddi yno mae'n llifo am filltir arall i'r dwyrain gan basio wrth ymyl Castell Aberlleiniog i gyrraedd Afon Menai ger Lleiniog.
Brwydr Aberlleiniog
[golygu | golygu cod]Codwyd Castell Aberlleiniog gan Huw Flaidd, Iarll Caer, yn y flwyddyn 1088 fel rhan o ymgais Normaniaid Caer i oresgyn teyrnas Gwynedd.[1] Pan ddychwelodd Gruffudd ap Cynan o Ddulyn yn 1094 casglodd fyddin yn Nefyn ac yna hwyliodd i Benmon a glanio ar y traeth yn Aberlleiniog; oddi yno ymosododd ar y castell yn llwyddiannus. Amddiffynnwyd y castell gan 80 o farchogion ac 14 ysgwier ifainc. Cipiwyd y castell a'i losgi a lladdwyd nifer o'r amddiffynwyr. Cofnodir y digwyddiad yn Hanes Gruffudd ap Cynan.[2]