Rhosyr (cantref)

Oddi ar Wicipedia
Mae'r erthygl yma'n trafod y cantref canoloesol. Am ystyron eraill, gweler Rhosyr (gwahaniaethu).

Cantref ar Ynys Môn oedd Cantref Rhosyr. Roedd yn un o dri chantref ar yr ynys, ynghyd ag Aberffraw a Cemais.

Ei ganolfan oedd Rhosyr, lle cynhelid un o lysoedd pwysicaf Twysogion Gwynedd, sef Llys Rhosyr. Roedd y cantref yn ffinio â Chemais yn y gogledd ac Aberffraw yn y gogledd-orllewin. Yn y de roedd yn gorwedd ar lan Afon Menai ac yn wynebu cantref Arfon ar y tir mawr. Er bod cantref Aberffraw yn bwysicaf yn wleidyddol, Rhosyr oedd y cyfoethocaf o'r tri chantref am fod ei thir amaethyddol yn well nag eiddo'r lleill.

Roedd y cantref yn ymrannu'n ddau gwmwd, sef:

Yn ogystal â llys Rhosyr ym Menai roedd gan Dindaethwy lys cymydol yn Llan-faes hefyd.

Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol sefydlodd Llywelyn Fawr fynachlog yn Llan-faes a chladdwyd ei wraig Siwan yno. Cyn hynny roedd gan y cantref un o ddau glas pwysicaf yr ynys ym Mhenmon, a drowyd yn briordy yn y 12g, sef Priordy Penmon.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]