Eglwys Gredifael

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llanredifel)

Saif Eglwys Gredifael, neu Eglwys Penmynydd rhwng Porthaethwy a Llangefni ar Ynys Môn (Cyfeirnod OS: SH 517 749); yr hen enw arni oedd Llanredifel . Fe'i cysegrir i Sant Gredifael, ei sefydlydd yn ôl traddodiad.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae gan yr eglwys hon gysylltiad â theulu Tuduriaid Penmynydd sef teulu o uchelwyr Cymreig fu'n flaenllaw yng ngwleidyddiaeth Cymru ac yn ddiweddarach Lloegr. Roedd yn eglwys plwyf Llanredifael (neu Llanredifel), a chyfeirir ati weithiau wrth yr enw hwnnw mewn ffynonellau hynafiaethol; safai'r plwyf yng nghwmwd Dindaethwy.

Yma mae cerflun alabaster o Goronwy ap Tudur Fychan a'i briod Myfanwy.

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]