Eglwys Gredifael
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Saif Eglwys Gredifael, neu Eglwys Penmynydd rhwng Porthaethwy a Llangefni ar Ynys Môn (Cyfeirnod OS: SH 517 749); yr hen enw arni oedd Llanredifel . Fe'i cysegrir i Sant Gredifael, ei sefydlydd yn ôl traddodiad.[1]
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae gan yr eglwys hon gysylltiad â theulu Tuduriaid Penmynydd sef teulu o uchelwyr Cymreig fu'n flaenllaw yng ngwleidyddiaeth Cymru ac yn ddiweddarach Lloegr. Roedd yn eglwys plwyf Llanredifael (neu Llanredifel), a chyfeirir ati weithiau wrth yr enw hwnnw mewn ffynonellau hynafiaethol; safai'r plwyf yng nghwmwd Dindaethwy.
Yma mae cerflun alabaster o Goronwy ap Tudur Fychan a'i briod Myfanwy.
Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]
- Ffotograffau o Egwys Gredifael, Penmynydd
Arch garreg Goronwy a Myfanwy a symudwyd yma o Leiandy Llanfaes
Cerflun o Goronwy ap Tudur Fychan
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ A Welsh Classical Dictionary; gwefan y LlGC; adalwyd 13 Tachwedd 2017.