Llandysilio, Ynys Môn
Gwedd
Eglwys Sant Tysilio | |
| Math | plwyf |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Ynys Môn |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.233371°N 4.176693°W |
![]() | |
| Crefydd/Enwad | Anglicaniaeth |
| Esgobaeth | Esgobaeth Bangor |
- Am lleoedd eraill o'r enw "Llandysilio", gweler Llandysilio (gwahaniaethu).
Plwyf eglwysig ar Ynys Môn yw Llandysilio. Mae'n gorwedd ar lan Afon Menai yn ne'r ynys. Mae'r plwyf, sy'n rhan o Esgobaeth Bangor, yn cynnwys Porthaethwy.
Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Dindaethwy, cantref Rhosyr. Enwir yr y plwyf ar ôl Sant Tysilio.[1] Ymgorfforir enw'r plwyf yn enw gwneud Llanfair Pwllgwyngyll, sef "Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch" (sylwer fod yr enw yn anghywir yma, heb y treiglad meddal).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Melville Richards, 'Enwau lleoedd', Atlas Môn.
