Hazel Walford Davies
| Hazel Walford Davies | |
|---|---|
| Ganwyd | 11 Ionawr 1940 Sir Gaerfyrddin |
| Bu farw | 21 Tachwedd 2025 Aberystwyth |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, darlithydd |
| Plant | Jason Walford Davies, Damian Walford Davies |
| Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Uwch-ddarlithydd ac awdur o Gymru oedd Hazel Walford Davies (11 Ionawr 1940 – 21 Tachwedd 2025).[1][2]
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Cafodd ei geni yn ardal Bancffosfelen, Sir Gaerfyrddin. Ar ôl cyfnod yn Ysgol y Gwendraeth, fe aeth ymlaen i dderbyn addysg bellach ym Mhrifysgolion Caerdydd a Rhydychen.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Bu'n Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yn Athro ym Mhrifysgol Morgannwg, gan arbenigo ar fyd y ddrama yng Nghymru.[3] Treuliodd gyfnodau fel Athro Ymweliadol mewn nifer o brifysgolion yn yr Unol Daleithiau.
O 2006 hyd at 2011, bu’n gadeirydd Bwrdd Rheoli’r Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg sydd bellach wedi’i ymgorffori yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cyflawnodd, gyda hynny, waith pwysig ar adeg sefydlu’r Coleg Cymraeg. Yn 2014 fe'i hetholwyd yn gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru [4]. Yn 2017 cyflwynodd ddarlith flynyddol Anrhydeddus Cymdeithas y Cymrodorion ar yr Arglwydd Howard de Walden.
Hi yw awdur Saunders Lewis a Theatr Garthewin (1995) a golygydd State of Play (1998), One Woman, One Voice (2000, 2005), Llwyfannau Lleol (2000) a Now You're Talking (2005). Cyhoeddodd hefyd gyfrolau yn ymwneud â bywyd a gwaith Syr O. M. Edwards. Bu'n aelod o Gyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn Gadeirydd Canolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg Prifysgol Cymru.
Fe'i hurddwyd yn aelod wisg wen o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008.[5]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd yn briod a Walford Davies (ganwyd 1940) ac yn fam i Jason a Damian.
Bu farw yn sydyn yn 85 mlwydd oed, yn ei chartref yn Aberystwyth.[6]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Bro a Bywyd: Syr O. M. Edwards 1858-1920 (Cyhoeddiadau Barddas, 1988)[7]
- Saunders Lewis a Theatr Garthewin (Gwasg Gomer, 1995)[8]
- State of Play - Four Playwrights of Wales (Gwasg Gomer, 1998)[9]
- Llwyfannau Lleol (Gwasg Gomer, 2000)[10]
- Now You're Talking: Drama in Conversation (Parthian Books, 2005)[11]
- One Woman, One Voice (Parthian Books, 2005)[12]
- Y Theatr Genedlaethol yng Nghymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007)[13]
- O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards (Gwasg Gomer, 2020)[14]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Hazel Walford DAVIES - Personal Appointments (free information from Companies House)". beta.companieshouse.gov.uk. Cyrchwyd 2019-11-13.
- ↑ "Yr Athro a'r awdur, Hazel Walford Davies, wedi marw", BBC Cymru Fyw, 25 Tachwedd 2025; adalwyd 25 Tachwedd 2025
- ↑ "Teyrngedau i Hazel Walford Davies: Athro, awdur a "phersonoliaeth lachar"". Golwg360. 2025-11-25. Cyrchwyd 2026-01-25.
- ↑ "Hazel Walford Davies". Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Cyrchwyd 2019-11-13.
- ↑ "Also honoured with the white robe are Bethan Bryn, Aberystwyth; Hazel Walford Davies, Aberystwyth;". Daily Post, North Wales Live. 2008-06-24. Cyrchwyd 2019-11-13.
- ↑ "Click here to view the tribute page for Hazel Walford DAVIES". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-01-25.
- ↑ Davies, Hazel Walford (1988). Syr O.M. Edwards. Caerdydd: Barddas. ISBN 0946329354. OCLC 19323452.
- ↑ Davies, Hazel Walford (1995). Saunders Lewis a Theatr Garthewin. Llandysul, Dyfed: Gomer. ISBN 1859022928. OCLC 36671650.
- ↑ Davies, Hazel (1998). State of play : four playwrights of Wales. Llandysul: Gomer. ISBN 1859025749. OCLC 40755034.
- ↑ Davies, Hazel Walford, gol. (2000). Llwyfannau lleol. Llandysul: Gomer. ISBN 1859029027. OCLC 45736839.
- ↑ Davies, Hazel Walford; Thomas, Ed; Edwards, Dic; Way, Charles; Eirian, Siôn; Miles, Gareth (2005). Now you're talking : contemporary Welsh dramatists in conversation with Hazel Walford Davies. Aberteifi: Parthian. ISBN 1902638484. OCLC 62760521.
- ↑ Morgan, Sharon (2000). Davies, Hazel Walford (gol.). One woman, one voice : plays. Aberteifi: Parthian Books. ISBN 1902638085. OCLC 45766940.
- ↑ Davies, Hazel Walford (2007). Y theatr genedlaethol yng Nghymru. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 9780708318898. OCLC 190751750.
- ↑ Davies, Hazel Walford (2019). O.M. Llandysul: Gwasg Gomer. ISBN 1848518641. OCLC 1104640356.
| Gwybodaeth o Gwales |
|
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Hazel Walford Davies ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith. |