Thomas Scott-Ellis, 8fed Barwn Howard de Walden

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Thomas Scott-Ellis, 8fed Barwn Howard de Walden
Thomas Scott-Ellis, 8th Baron Howard de Walden.jpg
Ganwyd 9 Mai 1880 Edit this on Wikidata
Westminster Edit this on Wikidata
Bu farw 5 Tachwedd 1946 Edit this on Wikidata (66 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Awdur Edit this on Wikidata
Swydd aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Castell y Waun, prif gartre'r teulu.
Plasty Croesnewydd, ger Wrecsam; un o gartrefi'r teulu yn 1929 a fu'n gartref ei hynafiaid Cymreig.
Plas Llanina, ger Ceinewydd, Ceredigion, ble arferai'r teulu fynd ar eu gwyliau pob haf. Mae Eglwys Sant Ina i'w weld ar y chwith.

Tirfeddiannwr, awdur a noddwr y celfyddydau oedd Thomas Evelyn Scott-Ellis, 8fed Barwn Howard de Walden, 4ydd Barwn Seaford (9 Mai 18805 Tachwedd 1946). Cystadleodd yng Ngemau Olympaidd yr Haf, yn 1908 yn rasio cychod. Roedd o dras Gymreig a bu'r teulu'n byw yng Nghastell y Waun, Sir Ddinbych. Bu'n llywydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru am dair blynedd ac yn un o lywodraethwyr y Llyfrgell Genedlaethol am gyfnod a bu'n hael ei nawdd i'r ddau sefydliad. Gwnaed ef yn un o ymddiriedolwyr Oriel y Tate, Llundain, yn 1938. Oherwydd iddo etifeddu tiroedd yng nghanol Llundain, roedd yn un o bobl cyfoethoga gwledydd Prydain.

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Thomas Evelyn Ellis ar 9 Mai 1880, yn Llundain, yn fab i Frederick George, 7fed barwn Howard de Walden, a Blanche, merch hynaf a chyd-aeres William Holden, Palace House, Swydd Gaerhirfryn. "Tommy" oedd ei enw i'w deulu a'i ffrindiau agos.[1]

Fe'i addysgwyd yn Ngholeg Eaton ac yn Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst. Ymladdodd yn Rhyfel y Boeriaid ac yn y Rhyfel Byd Cyntaf gwasanaethodd yn yr Aifft, De Affrica, Ffrainc ac yng Ngallipoli yn Nhwrci.

Yn dilyn marwolaeth ei dad yn 1899, Scott-Ellis, yr unig fab, a etifeddodd y bendefigaeth. Bu'n byw yng Nghastell Y Waun yn yr hen Sir Wrecsam a threuliwyd llawer o'u gwyliau yn Llanina ger Ceinewydd.[2][3]

Ymhyfrydodd yn ei achau Cymreig, yn enwedig ei hynafiad John Ellis, Wrecsam, a aeth i Jamaica yn ystod teyrnasiad Siarl II, brenin Lloegr a'r Alban yn llyfrau Burke, Debrett ac eraill ar y bendefigaeth; ychwanegwyd yr enw Scott gan yr Arglwydd Howard yn 1917. Priododd Margherita Dorothy yn 1912, roedd yn ferch Charles van Raalte a bu iddynt 6 o blant.

Noddwr y celfyddydau[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn noddwr theatr a chelfyddyd ac yn awdur nifer o ddramâu. Ceisiodd, yn erbyn llawer o wrthwynebiad, sefydlu'r Theatr Genedlaethol gyntaf i Gymru. Roedd llawer o'r gwrthwynebiad tuag at y ‘Theatr Genedlaethol' yn deillio o gyhuddiadau o Seisnigrwydd y cwmni. Roedd yn Arlywydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam yn 1933.

Roedd yn adnabod y cerddor Josef Holbrooke. Trodd at y rhamantau Arthuraidd am ddefnydd ei ddrama gyntaf; a defnyddiwyd peth o'i waith ar gyfer opera, gyda llên-gwerin Cymru'n llinyn drwy'r cwbwl. Cyhoeddodd The Children of Don (1912), Pont Orewyn (1914), Lanval (1915), Song of Gwyn ap Nudd, Dylan (1919), The Cauldron of Annwn (1922), The Cauldron of Annwn including the story of Bronwen (1929) a The Five Pantomimes (1930). Yn 1904 cyhoeddodd Banners, standards, and badges from a Tudor mansion a Some Feudal lords and their seals. Yn 1924 perfformiwyd drama o'i eiddo a oedd yn delio gyda'r ymerawdr Heraclius, yn enwedig ei gysylltiad â Christionogaeth ag Islam.

Plant[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd un fab, etifedd y teitl: John Osmael Scott-Ellis, 9fed Barwn Howard de Walden (27 Tachwedd 1912 – 9 Gorffennaf 1999) a briododd ddwywaith: Irene Gräfin von Harrach, merch Hans-Albrecht Graf von Harrach a Helene Gräfin von und zu Arco-Zinneberg, ar 21 Awst 1934. Ac yna priododd Gillian Margaret Buckley, merch Cyril Francis Stewart Buckley a Audrey Burmester, in 1978.

Cafodd hefyd bump o ferched:

  • Bronwen Mary (g. 27 Nov 1912 - 2003)
  • Elisabeth Gwendolen (5 Rhagfyr 1914 - 1976)
  • Essylt Priscilla Scott-Ellis (15 Tachwedd 1916 - 1983)
  • Margaret Irene Gaenor (g. 2 Jun 1919)
  • Rosemary Nest Scott-Ellis (g. 28 Oct 1922)

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymraeg
  • T. E. Ellis, Pont Orewyn (Caerdydd, 1914).
  • T. E. Ellis, Introduction, yn H. Ibsen, Yr Ymhonnwr, cymreigiad J. Glyn Davies a D. E. Jenkins, (Lerpwl, 1922), tt. v–x.
  • Rhys Puw, Byd y Ddrama, Delfryd yr Arglwydd Howard de Walden, Y Ford Gron, cyfrol IV, rhif 2 (Rhagfyr 1933), t. 41.
  • Rhys Puw, Byd y Ddrama, Tarian Howard de Walden – Dydd Olaf Mai, Y Ford Gron, cyfrol IV, rhif 4 (Chwefror 1934), t. 88.
  • (9fed) Lord Howard de Walden, My Father, yn Lord Howard de Walden, Earls Have Peacocks (Llundain, 1992), tt. 23–43
  • Hazel Walford Davies, Howard de Walden a Mudiad y Theatr Genedlaethol Gymreig, 1911–14, yn (gol.) Hazel Walford Davies, Y Theatr Genedlaethol yng Nghymru (Llanydybïe, 2007), tt. 1–48.
  • Hazel Walford Davies, Howard de Walden a Chwaraedy Cenedlaethol Cymru, 1927–40, yn (gol.) Hazel Walford Davies,
  • Y Theatr Genedlaethol yng Nghymru (Llanydybïe, 2007), tt. 47–129.
  • Gweler hefyd, Anwen Jones, National Theatres in Context: France, Germany, England and Wales, Gwasg Prifysgol Cymru, 2007.
Saesneg
  • Beriah Gwynfe Evans, Welsh National Drama: Lord Howard de Walden's mistake, and how it might be rectified, I. – The Mistake, Wales, VI, 35 (1914), t. 44.
  • Burke's … Peerage, Baronetage, and Knightage;
  • Debrett's Peerage, Baronetage, Knightage, and Companionage, 1952 ;
  • The Times, 6 Tach 1946;
  • NLW MSS 4970-6074;
  • Who was who?, 1941-50.
  • T. E. Ellis, Some Feudal Lords and their seals, (Llundain, 1903).
  • Lord Howard de Walden, Introduction, yn Thomas Willement, Banners standards and badges: from a Tudor manuscript in the College of arms, (Llundain, 1904), tt. v–vii.
  • T. E. Ellis, Dylan Son of the Wave, (Llundain, 1908).
  • T. E. Ellis, Lanval (Llundain, 1908).
  • T. E. Ellis, The Cauldron of Annwn (Llundain, 1922).
  • T. E. Ellis, Five Pantomimes (Llundain, 1930).
  • T. E. Ellis, The Byzantine Plays (Berkshire, 2006).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Maclagan, Michael; H.C.G. Matthew (2004). "Ellis, Thomas Evelyn Scott-, eighth Baron Howard de Walden (1880–1946)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. 1st Online Edition 2011 January.). Oxford University Press. Cyrchwyd 2014-06-01. (Subscription required (help)). Cite uses deprecated parameter |subscription= (help)
  2. Esboniadur y Porth; y Coleg Cymraeg Cenedlaethol; adalwyd 28 Awst 2016.
  3. Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd 28 Awst 2016.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Howard de Walden ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.