Neidio i'r cynnwys

Eisteddfod Bodran

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod Bodran
Enghraifft o:gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurSaunders Lewis
CyhoeddwrGwasg Gee
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1952
GenreDrama
Dynodwyr

Fel "Gwamalrwydd mewn Tair Golygfa" y disgrifiodd Saunders Lewis ei ffars Eisteddfod Bodran a gyhoeddwyd gyntaf ym 1952 gan Wasg Gee.[1][2] Cytunodd Saunders ei chyfansoddi ar gyfer Gŵyl Ddrama Theatr Garthewin ym 1950, i'w llwyfannu gan Chwaraewyr Garthewin, er y bu cryn drafferth iddo ei chwblhau mewn amser.[3] Gwatwar Cymru a wna'r ddrama, drwy ddefnyddio eisteddfod mewn pentref, fel man cychwyn, a gwaith y bardd Talhaiarn o Ddyffryn Elwy, ger Garthewin. Mae'r teitl yn cyfeirio at Fynydd Bodran ger Llanfair Talhaearn.

Crynodeb

[golygu | golygu cod]

Yn yr Act Gyntaf, cawn gwrdd â'r cwpl "aflêr" Rhiannon a Manawydan, sydd newydd-briodi ac yn crwydro Cymru ar eu mis mêl. Deufis ynghynt, roedd y ddau "yn athro ac athrawes mewn ysgol ramadeg barchus" ond yn penderfynu "mynd i drampio ar hyd bryniau Cymru, a byw fel y dylai bardd fyw, yn rhydd, heb hitio am na Chyngor Addysg nac arholiad na'r Bwrdd Canol Cymreig". Mae'r Gwyddel o "fardd" Manawydan wedi cyfansoddi "pryddest" ar gyfer cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ond bellach wedi'i "golli" mewn tafarn.[2]

Sefydlir yn fuan iawn nad perthynas hapus sydd yma, gyda Rhiannon yn ysu am ei rhyddid. Daw nifer o drigolion y pentref [Llanddewin] ar eu traws, i gyd wedi'i gwisgo fel aelodau o Orsedd y Beirdd Bodran, wrth baratoi ar gyfer eu "[h]eisteddfod flynyddol go enwog" sydd i'w gynnal y diwrnod hwnnw. Mae gan Manawydan "lygoden" yn gwmni iddo, ac mae'n ceisio gwerthu'r llygoden i'r Ysgolfeistr, y Ficer a'r Arch-Bencerdd.

Pan ddaw ar draws y Crïwr [belman], maent yn trafod gwaith y bardd lleol Talhaiarn, oedd wedi ymweld â phlasdy Garthewin, ac mae'r Crïwr yn nodi mai ei "daid" roddodd iddo "y gloch", sydd "i arwain Gorsedd Bodran i'r llwyfan". Rhydd yntau i Manawydan, docyn am ddim i'r eisteddfod. Cyfeirir at y ffaith bod y Crïwr yn llinach "yr hen feridd" fel Talhaiarn, Siôn Powel a Thwm o'r Nant.[2]

Mae Rhiannon yn ymadael ag ef, gan ddweud ei bod hi'n mynd i "ganu" er mwyn "ennill pres". Pan gychwyna ganu, "y mae'r ceiniogau'n syrthio o'i chwmpas", ond pan fentra Manawydan wneud yr un modd, "Dim un geiniog goch. Dim dimai. Dim encôr. Yr un fath â chanu mewn mynwent... Myfyrdod ymlith y beddau, neu'r artist yn Philistia... Ble mae'r awen?".[2]

Daw Manawydan i gwrdd â Cigfa, "gwraig y plismon" wedi iddo "dorri ffenest' â photel o gwrw" neu'r "fflagon" a dderbyniodd gan y Crïwr. "Llifeiriant lleferydd Niagra" yw disgrifiad Manawydan ohoni, ac er iddo fynnu bod ei gŵr yn ei "restio" a'i roi "yn y ddalfa tros nos", eglura ei wraig bod y Plismon yn rhy brysur gyda'r eisteddfod. Ffug-lewyga Manawydan, ac wedi dadebru, mae'n cyfaddef wrth y gynulleidfa ar ddiwedd yr Act, "Os na ddaw'r plismon at y troseddwr rhaid i'r troseddwr fynd am y plismon..."[2]

Fe gychwyn yr Ail Act yn y Seremoni Cadeirio, wrth i'r newyddiadurwr Heilyn ap Gwyn baratoi y "peiriant darlledu". Mae'r plismon, Pryderi Huws, "yn sefyll wrth ymyl drws cefn y Theatr". Arweinia'r Crïwr yr osgordd i'r llwyfan, sy'n cynnwys y cymeriadau a welsom yn yr Act gyntaf. Mewn Act sy'n adleisio ffwlbri'r anterliwt, cawn ddilyn hurtrwydd y seremoni ar gân a cherdd. Ond mae siom, gan nad oes neb "yn deilwng" o'r Gadair. Ond fe atgoffa Heilyn bawb mai "...yn enw'r radio, mae'n rhaid cadeirio". Mae gwatwar amlwg yma am yr Eisteddfod a'r BBC : "Nid y gerdd sy'n bwysig, ŵr / Ond awydd y gwrandawr! / Ba waeth sut bryddest y bo? / Sblash yr orsedd sy' i blesio"[2] Mae'r beirniaid yn dewis un bryddest, ac yn galw ar yr enillydd "Chinee" i godi. Ond y Plismon, Pryderi Huws sy'n cael ei ddewis, er mawr syndod i'w wraig, Cigfa! Ond wrth i'r Arch-Bencerdd alw am "heddwch" fe ruthr Manawydan i'r llwyfan gan ddatgan "Heddwch, nag oes! Ddim yn eich einioes! / Mae heddwch yn yfflon, yn racs gyrbibion, / a ffenestr tŷ'r plismon yn llanastr ar y lôn". Mae'n erfyn am i'r "Pi Si" ei "restio".[2]

Mynnu bod Manawydan yn cael ei "daflu allan" wna Heilyn, ond parhau i fynu anhegwch a llanast yr eisteddfod wna Manawydan, a hynny yn fyw drwy'r Radio. Mae Cigfa yn mynnu cael gwybod "Be' 'dy'r gêm?", gan awgrymu fod "...y llanc yn ddiniwaid / Ond ei dop braidd yn doti o golli ei goflaid." Trafodir nad oes modd "restio" Manawydan heb achos Llys, ac fe erfynir ar i'r Plismon wneud nodyn o'i fanylion yn ei lyfr. Tra bod Manawydan yn ceisio sillafu ei enw, fe rydd yr Arch-Bencerdd lyfr y plismon iddo, ac fe orffenir yr Act gyda Manawydan yn datgelu bod ei bryddest [a gollodd mewn tafarn] wedi'i gynnwys yng nghefn llyfr nodiadau y Plismon. "Myfi piau cadair Bodran, / Myfi, O'Leary."[2]

Fore drannoeth, wrth i Manawydan a Cigfa baratoi'r llwyfan ar gyfer y llys, maent yn feirniadol o gynulleidfaoedd yr eisteddfodau. Wedi taro bargen na sonith Cigfa bod Rhiannon wedi bod yn canu am bres ar y stryd, mae Manawydan yn gorfod cytuno i beidio cyhuddo Pryderi [gŵr Cigfa] o ddwyn ei bryddest. Seilir y fargen gyda chusan.

Cyrhaedda Heilyn, sy'n cyfaddef ei fod yn "gyfreithiwr", ac yn holi Manawydan os oes ganddo gyfreithiwr i'w amddiffyn yn y llys. Er i Manawydan geisio ei ddarbwyllo ei fod am bledio'n euog, mae Heilyn yn ceisio ei berswadio "nad ydych chi ddim yn iawn yn eich pen. Felly, nad oeddech chi ddim yn gyfrifol." Mae'n gwatwar dymuniad Manawydan i bledio'n euog. "Dywedwch wrth y llys mai bardd ydych chi. Yr enw technegol ar hynny yw paranoia." Mae'n arddangos ei dystiolaeth [y botel gwrw a gwydyr o'r ffenest] ac mae Manawydan yn rhoi iddo'r "corcyn" o'r botel! Cyhuddo Heilyn o fod yn "[b]la penna' sydd yn y dyffryn yma" wna Cigfa, gan ei fod yn "pigo'i drwyn i deleffôn a 'steddfod a bin lludw a'r radio ac ymyrraeth yng ngwaith pawb drwy'r lle".[2]

Mae Manawydan yn ceisio perswadio'r Plismon y caiff gadw'r anrhydedd o fod yn fardd cadeiriog: "...wedi darllen y bryddest [...] fyddai'n ganwaith gwell gen' i gael fy mhrofi'n euog o baranoia a schizophrenia na chael fy mhrofi'n euog o'r bryddest yma".[2]

Cyhoeddir bod "y Prif Gwntabl" ar ei ffordd yno, wedi i Heilyn siarad gyda'i "glerc" yn ei swyddfa - "merch ifanc [...] 'roedd hi'n gwybod popeth am helynt y cadeirio," dadlena Heilyn. Pan gyrhaedda'r car, fe dry'r ymwelydd benywaidd yn gamddealltwriaeth ymysg y pentrefwyr. Gyda rhai yn credu mai clerc y Prif Gwnstabl yw hi, gwelir mai Rhiannon [gwraig Manawydan] a welwyd yn yr Act gyntaf sydd wedi cyrraedd, a bod cysylltiad teuluol rhyngddi â Cigfa. "Merch i chwaer mam" ydi Rhiannon, yn ôl Cigfa, sy'n ei gwneud hi'n nith i'r Arch-Bencerdd. Eglura Rhiannon mai "ers canol dydd ddoe" y cafodd y swydd, "ar ddamwain", wedi iddi lwyddo i goginio pryd o fwyd i'r Prif Gwnstabl mewn "hotel" gyfagos. Clywodd holl helynt y Cadeirio ar y Radio. Datgelir bod Rhiannon a Cigfa wedi bod yn "trefnu popeth gyda'i gilydd ar y ffôn" dan drwynnau pawb, a'i bod hi'n wraig i Manawydan. Mae'r ddau yn cymodi, a gorffennir y ddrama gyda'r Plismon yn cael cadw'i Gadair, yr Arch-Bencerdd yn cynnig cartref a gwaith i Manawydan a'i nith, a heb gofnod gan Heilyn o unrhyw achos llys.[2]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Pan gyhoeddodd Theatr Garthewin eu bod am gyflwyno "Gŵyl Ddrama Genedlaethol" ym mis Mai 1950, addawodd Saunders Lewis y byddai wedi gorffen drama newydd ar gyfer Chwaraewyr Garthewin erbyn Gwanwyn 1950. Drama am "fywyd cyffrous Santes Catherine o Siena" oedd y bwriad, a'i galw yn Avignon, ond ni fedrodd Saunders gyflawni'r gwaith.[3] Aeth ati yn hytrach i greu ffars, er iddo gyfaddef wrth Kate Roberts mai nid gorchwyl hawdd oedd hynny.[3]

Bu'n rhaid i gyfarwyddwr y ddrama, Edwin Williams, "'yrru yr holl ffordd i Lygad-y-glyn, Llanfarian [cartref Saunders ar y pryd] i gymell yr awdur i orffen y ddrama ar frys." Dechreuwyd ymarfer y ddrama ddechrau Mehefin 1950. Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf ar y 24 Awst 1950.

Yn Rhaglen y cynhyrchiad cyntaf, nododd Saunders "Gellir cael hanes cyntaf Eisteddfod Bodran yn ail gyfrol gweithiau Talhaiarn 1862"[2]

"Yn y 'difyrrwch" presennol mewn tair act, ceisir awgrymu peth o ysbryd Talhaiarn ac o ysbryd hen anterliwdiau Twm o'r Nant yn y rhanau lleiaf 'moesol'. Yn yr ail act gwahoddir y gynulleidfa i ymuno yn yr hwyl".[2]

Ers cychwyn y Theatr yng Ngarthewin, roedd sgweiar y Plas, Robert O. F. Wynne wedi datgan ei ddiddordeb mewn gweld mwy o waith lleol ar ei llwyfan, gan gynnwys anterliwdiau Twm o'r Nant.[3]

Wedi gorffen ei ddrama Blodeuwedd ym 1947, bwriadol eto oedd dewis enwau'r cymeriadau Manawydan, Rhiannon, Pryderi a Cigfa o'r Mabinogi, fel sail i'r ffars hon. Mae hyd yn oed y "llygoden" yn perthyn i drydedd gainc y Mabinogi.[2]

"Bwriad Saunders Lewis wrth ysgrifennu Eisteddfod Bodran oedd bwrw'i lach ar Philistiaeth ddifeddwl, ddiegni Cymru ei oes ei hun", medd Ioan Williams, yn ei gyflwyniad i'r ddrama yn nghyfrol cyntaf Dramâu Saunders Lewis - Y Casgliad Cyflawn (Prifysgol Cymru 1996). Mae'n cyfeirio'n benodol at gysylltiad Talhaiarn â'r bardd Ceirog yn yr olygfa gyntaf, lle mae Rhiannon yn canu un o'i ganeuon, a Manawydan yn cyfeirio at yr "artist yn Philistia" yn ddiweddarach.[2]

Aiff Williams ymlaen i nodi mai "Bardd yr eisteddfod newydd, ddosbarth canol, oedd Ceiriog a dangosodd ffyddlondeb trigolion Llanfair Talhaearn iddo mor ddwfn yr oedd y diwylliant benywaidd wedi ymwreiddio yn nhir Cymru. Er na hawliai fod yn ddim amgenach na 'Gwamalrwydd mewn tair golygfa', yr oedd Eisteddfod Bodran yn ymdrech i ddychanu'r diwylliant hwnnw".[2]

Diffyg adeileddol y ddrama, ym marn John Gwilym Jones oedd bennaf gyfrifol am "yr argraff o siom" a gafodd ef yn y ddrama, er ei fod yn gwerthfawrogi amcan Saunders a'i feistrolaeth ar wahanol ddeunyddiau chwerthin.[2] Cymharodd y ddrama i un o gomedïau Aristoffanes "...efo'i pharodïau, ei chabledd, ei choegni, ei chlymu llac, ei chadw reiat, ei haml anghyfrifoldeb, ei gwrthwynebiad i barchu na byd na betws".[3] "Teimlai hefyd fod y penderfyniad i anfon Rhiannon o'r llwyfan cyn diwedd Act 1 gystal ag ymwrthod â drama go-iawn a fyddai wedi codi o'r berthynas rhwng y cariadon a bod Saunders felly, wedi colli gwir ffynhonnell egni'r gomedi", yn ôl Ioan Williams.[2]

Noda Hazel Walford Davies bod y ddrama wedi'i hysgrifennu "yn benodol ar gyfer y math o gynulleidfa y gellid ei disgwyl yng Ngŵyl Garthewin". Cyfeiria Davies at adolygiad Dewi Llwyd Jones yn Y Faner [30 Awst 1950] "Neuadd fach Garthewin yn llawn chwerthin - athrawon Cymraeg ysgolion gramadeg yn chwerthin am ben yr Orgraff, aelodau o'r Orsedd yn chwerthin am ben defodau eisteddfodol, arweinwyr addysg yn chwerthin am ben Addysg, Cymry yn chwerthin ar ben Cymry - pobl barchus, ddifrifol yn chwerthin am ben confensiwn - pawb ohonom yn chwerthin am ein pennau ein hunain - dyna a gafwyd gan berfformiad cyntaf Eisteddfod Bodran".[3]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • A. Manawydan O'Leary
  • Rhiannon - ei wraig
  • Athro Ysgol (ac ustus heddwch)
  • Ficer (ac ustus heddwch)
  • Arch-Bencerdd (ac ustus heddwch)
  • Crïwr
  • Cigfa Huws [gwraig y plismon a merch yr Arch-Bencerdd]
  • P. C Pryderi Huws
  • Heilyn ap Gwyn

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

1950au - 1960au

[golygu | golygu cod]

Cyflwynwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Chwaraewyr Garthewin yn Theatr Garthewin ar y 24 Awst 1950. Cyfarwyddwr Edwin WIlliams; cast:

  • Manawydan - Raymond Edwards
  • Rhiannon - Nesta Harris
  • Athro Ysgol - Tecwyn Jones
  • Ficer - Emrys Cleaver
  • Arch-Bencerdd - Emlyn Jones
  • Crïwr - David Price Williams
  • Cigfa - Elen Lloyd Jones
  • Pryderi - Tom Roberts
  • Heilyn - Ifan Roberts

Llwyfannwyd y ddrama gan Gymdeithas Ddrama Gymraeg Prifysgol Caerdydd ym 1953.[4]

1970au - presennol

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd y ddrama gan Gymdeithas Ddrama Cylch Bangor ym 1970.[5]

Cyflwynwyd y ddrama gan Gwmni Amatur Theatr Clwyd ym 1976.[6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Amazon
  2. 2.00 2.01 2.02 2.03 2.04 2.05 2.06 2.07 2.08 2.09 2.10 2.11 2.12 2.13 2.14 2.15 2.16 2.17 Williams, Ioan (1996). Casgliad o Ddramau Saunders Lewis Cyfrol 1. Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0708311822.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 Davies, Hazel Walford (1995). Saunders Lewis a Theatr Garthewin. Gomer.
  4. "Festival Plays Must Run To Times". Western Mail. 15 Rhagfyr 1953.
  5. "Cymdeithas Ddrama Cylch Bangor". North Wales Weekly News. 1 Ionawr 1970.
  6. "Hysbyseb". North Wales Weekly News. 23 Rhagfyr 1976.