Gymerwch Chi Sigaret?
| Enghraifft o: | drama lwyfan Gymraeg |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1955 |
| Awdur | Saunders Lewis |
| Cyhoeddwr | Llyfrau'r Dryw |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1956 |
| Genre | Drama |
| Dyddiad y perff. 1af | 1955 |
| Dynodwyr | |
Drama gan Saunders Lewis ydy Gymerwch Chi Sigaret? a gyhoeddwyd gyntaf ym 1956 gan Lyfrau'r Dryw [1]. Mae'r ddrama wedi'i gosod mewn dau leoliad ym 1948 - "mewn fflat ym mhrif ddinas un o wledydd Dwyrain Ewrop" ac "mewn fflat yn Fienna."[2] Y Rhyfel Oer yw cefndir y ddrama, ac mae'n seiliedig ar stori wir mewn papur newydd "am weithred o aberth arbennig iawn".[3]
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]Fel ei ddramâu eraill, merch yw prif gymeriad y ddrama, a merch go anghyffredin yw'r 'Iris' Babyddol ddewr, sy'n dewis aberthu ei bywyd a'i babi, dros gyfiawnder. Mae hi'n briod â'r Comiwnydd 'Marc', ond daw'r gorffennol yn ôl i ddrysu eu bywydau a'u cynlluniau. "Ni all dyn lai na chael ei symud wrth wylio'r awdur yn datguddio "mawredd rhyfedd ac enbyd y natur ddynol," wrth ddirwyn i'r pen bellen trasiedi a oddiweddodd deuddyn ieuanc ar ddechrau eu bywyd priodasol."[4]
Crynodeb
[golygu | golygu cod]Act Un
[golygu | golygu cod]Dialog rhwng Iris a'i gŵr Marc, yw'r Act Gyntaf, wrth iddi ddatgelu ei bod hi'n feichiog, ers dau fis. Mae Marc wedi dychwelyd o'i waith yn gynnar, a hynny "am y tro cyntaf ers chwe mis".[2] "Milwr" ydi Marc, neu "swyddog yn yr heddlu politicaidd" yn ôl Iris, ac mae hi'n dyheu "am i benbwl o Farcsydd [...] i droi'n Gristion".[2] Mae yntau'n cyhoeddi ei fod yn gorfod mynd i Fienna 'fory am "dridiau", ar berwyl "cenhadaeth swyddogol" gyda'i waith. Ond sylwa Iris ar "boen yn llygaid" ei gŵr.[2] Mae o wedi derbyn dyrchafiad heddiw, a cawn ein hatgoffa bod Iris a Marc wedi bod yn aelodau o'r "fyddin gudd pan oedd y Nazîad yma [yn Nwyrain Ewrop]. Fe wyddost nad oes dim gwrthod a byw", eglura Marc.[2] Mae dyrchafiad Marc yn ddibynol ar gyflawni'r genhadaeth hon yn Fienna, ac mae Iris yn amau yn syth bod "rhywun i farw".
"...Mae'r hanner ohonom ni a oedd yn y fyddin gudd yn awr yn y carchar neu waeth," poena Iris, "...y rhai oedd yn frodyr i mi, o'r un ffydd â mi. Mi briodais i un o'r Blaid [Gomiwnyddol]. Dyna pam yr wyf yn ddiogel."[2] Mae Marc yn dangos dau flwch sigarets newydd i Iris. "Mi gefais fenthyg y ddau i fynd i Vienna", ond mae'n gwrthod gadael i Iris eu cyffwrdd gan mai "pistol yw e'".[2]
"Mae'r baril a'r bwled ynddo ar ochr y colyn. Mae botwm ar ymyl y cas yma dan fy mawd i. Gellwch gynnig sigaret i ddyn fel hyn, mae yntau'n estyn ei law i'w chymryd: does raid ond pwyso bawd ar y botwm ac fe'i saethir ef ag un ergyd drwy ei galon."[2]
Cawn ein hatgoffa hefyd bod Iris wedi gorfod lladd dyn, yn ystod ei chyfnod yn y fyddin gudd. Pan ddatgelir mai "tad bedydd" Iris, a "ffrind mawr" i'w thad yw'r un sydd am farw, sef Phugas, fe dry tynged y weithred yn anochel. Atgoffa Marc bod yr heddlu politicaidd yn gwybod am y cysylltiad rhwng ei wraig â Phugas, a "Dyna'r pam y rhoddwyd y dasg hon i mi". [2] Ond ceisia Marc ei darbwyllo bod Phugas yn cael ei ystyried yn "Ffoadur. Bradwr. Gelyn i'r Wladwriaeth. Un sydd wedi ei werthu ei hun i'r Fatican a'r Americanwyr. Un sydd wedi ei gondemnio i farwolaeth gan yr Uchel Lys am fradychu ei wlad."[2] Un o'r rhesymau am hyn yw ei fod yn "golygu a chyhoeddi papur [newydd yn Fienna] ac yn ei smyglo rywsut neu'i gilydd i mewn i'r wlad yma". Cyffesa Iris ei bod yn gyfarwydd â'r papur, am ei bod hi'n derbyn copïau ohono pan yn ymweld â'r Eglwys.
Mae Iris yn cyhuddo Marc o geisio bod yn "arwr", gan ei atgoffa mai "Llofrudd yw llofrudd a mwrdwr yw mwrdwr".[2] Ond fe'i hetyb drwy gynnig "Fe all mwrdwr hefyd fod y lleiaf o ddau ddrwg". Mae Marc angen cymorth Iris, i gyfansoddi llythyr i'w thad bedydd, fydd yn caniatáu i Marc gael mynediad i'w weld a'i gyfarfod, er mwyn cyflawni'r weithred. Dyma gynllun sydd wedi'i baratoi yn ofalus gan yr heddlu, ac fe ddywed Marc os na fydd Iris yn cytuno i wneud hyn, "Fe fydd y plismyn yma cyn saith o'r gloch".[2]
Rhaid i Iris ddewis rhwng byw a bywyd eu babi, neu Phugas. Mae'n ddewis amhosib, yn enwedig am bod ei thad wedi addo i Phugas "...os byth y saif yntau mewn perygl einioes, fy mod i'n gobeithio y bydd rhywun o'm teulu innau yno i roi help llaw iddo".[2] Mae hi'n addo cyfansoddi'r llythyr, gan ychwanegu "A delw Croes fy Arglwydd yn fy nwylo, yr wyf i'n tyngu llw ac yn addunedu nad edrychaf i fyth ar dy wyneb di mwy, os lleddi di fy nhad-bedydd, ac na fyddaf i ddim yma pan ddychweli di o Vienna, ac na weli di fyth mohonof i'n fyw."[2]
Mae Marc yn "gynddeiriog" ac mewn cyfyng gyngor llwyr ynghylch ei ddewis. Ond fe gynigia Iris ddewis arall iddo. "Gyda'm llythyr i fe'th gymeran nhw di i Vienna a thros y ffin i'r sector Americanaidd. Cei groeso i mewn i fflat Phugas. Cei roi iddo neges Tada. Cei ddweud ein holl stori ninnau. Fe all yntau gael help yr Unol Daleithiau i warantu dy fywyd a threfnu diogelwch. Byddi allan o'r wlad yma'n rhydd".[2]
Dyma'r cyfyng gyngor sydd yn poenydio'r ddau, wrth i Marc baratoi i fynd i Fienna, ac i Iris gychwyn ar y llythyr.
Act Dau
[golygu | golygu cod]Digwydd yr Ail Act yn fflat Phugas yn Fienna. Cawn gwrdd â'r bonheddwr a'i chwaer Calista. Cawn ei hysbysu na fedar Phugas "ddim fforddio marw [...] Rhaid imi gael disgybl gynta' i gario'r gwaith ymlaen".[2] Mae cynllun ar waith a wêl "ŵr ifanc o offeiriad [...] i'w gollwng i'r wlad heno". Mae Calista yn sylwi ar ddynion islaw ar y stryd, ac fe gysura Phugas mai "gŵr Iris" ydyw. Er hynny, mae Calista yn amheus ohono, gan ofni'r heddlu politicaidd. "Ers chwe blynedd 'wn i ddim oll am Iris ... tan ei llythyr hi ddoe. Heddiw, mi wn o leia' ei bod hi'n ferch i'w thad," ateba Phugas.[2] Mae o'n ei hatgoffa hi bod ganddo ddryll hefyd, petai angen ei ddefnyddio.
Cyrhaedda Marc, ac fe sgwrsia'r ddau am Iris. Cyffesa Phugas, "'Doedd hi fawr fwy na chroten pan grogwyd ei thad. 'Welais i mo'ni hi fyth wedyn. Fe fu'n rhaid i minnau fynd tan ddaear, fel y byddem ni'n dweud. Mae'n siwr ei bod hithau wedi sobri ar ôl hynny."[2] Mae Phugas yn dechrau sôn am yr hen ddyddiau, cyn i Marc dorri ar ei draws a'i atgoffa "Mae'r bywyd yna ar ben. Onid un o'ch dynion chi a ddywedodd, gadewch i'r meirw gladdu eu meirw? Mae gen' i gar modur yn aros amdana' i i'm dwyn yn ôl i'r wladwriaeth sosialaidd acw. [...] 'Does dim ystyr i wladgarwch a chenedlaetholdeb yn ein byd comiwnyddol ni. 'Dyw'r gorffennol chwaith yn cyfri dim ond fel ffon ysgol i ddringo arni tua'r dyfodol."[2]
Er gwaetha'r ffaith bod Marc yn aelod o'r "blaid Gomiwnyddol" rhoi'r pwyslais ar y ffaith mai "Imi, chi yw priod Iris," wna Phugas. Aiff ymhellach drwy herio Marc mai "Rhyddfrydwr" ydio, ac mai "yn y fyddin gudd" yr oedd ef hapusa. Drwy'r herio geiriol, pwysleisia Marc mai yno'n "swyddogol ar ran yr heddlu politicaidd" y mae. Gwrthod derbyn mai "llythyr bradychu oedd ei llythyr hi" wna Phugas, gan fynnu mai "Acenion cariad ac onestrwydd oedd ym mhob brawddeg".[2]
Cyhoedda Marc ei fod yno i "gyflawni dedfryd yr Uchel Lys", ond ei watwar wna Phugas gan ddweud nad oes ganddo ddim arfau. Mae Marc yn ei atgoffa o lw tad Iris, ac fel mae ar fin cynnig sigaret iddo, mae llaswyr a roddodd Iris iddo, yn disgyn o'r cas. Dyma'r weithred sy'n newid popeth wrth i Marc "chwerthin sy'n husteria" a syrthio i'r gadair, gan ddatgan "Iris! Iris! Iris! 'Rwyt ti wedi ennill!"[2]
Dychwela Calista, am ei bod yn "amau" Marc. Eglura Marc bod Iris wedu tyngu llw, "...a'r groes yn ei dwylo, os saethwn i Phugas yn farw, yn ôl gorchymyn, na welwn i fyth mo'ni hithau wedyn yn fyw". Mae Phugas yn pryderu am ddiogelwch Iris. Maent yn gofyn i'r Capten Christopher [swyddog diogelwch Americanaidd] eu cynorthwyo. Mae Phugas yn awgrymu y dylai Marc ofyn am "loches politicaidd".[2]
Mae'r amser yn brin i achub Iris, nawr bod y cynllun wedi methu.
Act Tri
[golygu | golygu cod]Mae "chwe awr" wedi mynd heibio ers yr Ail Act, a rydym yn parhau ynghanol y ddrama yn fflat Phugas yn Fienna. Tra'n yfed te, mae Calista a Marc yn aros am alwad ffôn. Cyffesa Marc "mae'ch caredigrwydd chi'n fy mharlysu i. Mi ddes i yma i ladd eich brawd ac yr ydych chithau'n gofalu amdana' i fel chwaer."[2] Er i Marc deimlo'n euog, mae Calista yn ei atgoffa mai "Chi 'wrthododd gyflawni'ch cenhadaeth. Chi 'beidiodd a saethu. Chi 'ddewisodd arbed ei fywyd e."
Eglura Calista fwy am iechyd bregus Phugas, gan obeithio y caiff ddigon o amser a nerth i gyflawni yr hyn mae'n ofynnol iddo. Mae sicrhau llwyddiant cael yr offeiriad i mewn i'r wlad, yn bennaf bwysig. Mae hi hefyd yn ceisio darbwyllo Marc o wir fwriadau Iris. "Nid er mwyn achub bywyd ei thad-bedydd y gwnaeth Iris ei hadduned [...] Er mwyn eich cipio chi rhag gyrfa llofrudd yn yr heddlu politicaidd. Er mwyn rhwystro i'r Brawd Marc dyfu'n Swyddog Diogelwch [...] ac wedyn drwy fwrdrad ar fwrdrad yn Gomisâr Marc. Er mwyn eich gwared chi rhag y drwg yna. Gadewch imi am unwaith ddefnyddio iaith y Cristion,— er mwyn achub eich enaid chi."[2] Cyffesa Marc "Mae dull Iris o garu yn fy nychryn i."
Dychwela Phugas, gyda mwy o newydd am ddiflaniad peilot yr awyren, oedd i fod i gludo'r offeiriad. Mae o wedi diflanu; wedi ei herwgipio, ac yn fwy na thebyg, wedi'i ladd. Maent yn aros yn bryderus am yr alwad ffôn gan Iris. Mae Phugas erbyn hyn yn teimlo'n euog, bod y peilot wedi'i ladd, a sawl un arall i'w ganlyn. Mae'n penderfynu bod yn rhaid iddo hedfan yr awyren ei hun.
Holi am Dduw wna Marc. "Mi ddes i yma'n anffyddiwr i gyflawni gorchymyn fy Llywodraeth, ac fe syrthiodd llaswyr a chroes ar draws fy mhistol i. Oherwydd hynny y mae einioes fy ngwraig i mewn perygl a'r plentyn sy yn ei chroth hi".[2]
"Mae gen' i hawl resymol i wybod a'i gwallgofrwydd oedd ei dewis hi, ai gwallgofrwydd oedd ei ffydd hi, ai gwallgofrwydd a'm taflodd i yma yn Vienna?. Mae'n rhaid imi gael gwybod."[2]
Rhydd Marc ei holl "ffydd" yn Nuw, o glywed llais Iris ar y ffôn. Mae'r ffôn yn canu, ac yn weledol ar y llwyfan, datgelir mai Iris sydd yno, "yn eistedd ar stôl wrth ddesg yn swyddfa'r Heddlu Politicaidd a gwraig o swyddog yn sefyll wrth ei hymyl megis doctor".[2] Mae Iris yn siarad â Marc yn unig, ar y ffôn, ac yn cyhoeddi na chaiff hi ateb unrhyw gwestiwn, dim ond rhoi cyngor iddo : "Mae gennyt ti ail flwch sigareti. Maen' nhw'n addo os defnyddi di hwnnw yn awr yn ôl y gorchymyn a roddwyd iti, yr arbedan' nhw fy mywyd i...." ac yna mae Iris yn rhuthro i gyhoeddi "Esgus, Marc. 'Oes gennyt ti'r llaswyr?... dyro gusan—" ac fe ddiflanna'.[2]
Ymddiheura'r swyddog Christopher eu bod nhw wedi methu ei hachub hi. Mae Marc yn egluro'r cwbl wrth Phugas, Calista a Christopher. Prydera Calista am ddiogelwch Marc. Mae hi'n awgrymu mai nid defnyddio'r ail flwch sigaret i ladd ei brawd, oedd eu bwriad. "Heddiw mae'ch marwolaeth chi yn bwysicach lawer iddyn' nhw na marwolaeth Phugas. 'Ydych chithau'n bwriadu gwneud eu hewyllys nhw?"[2]
Er bod Marc yn honni fod ei fywyd ar ben, mae Phugas a Calista yn ei ddarbwyllo bod yn rhaid iddo fyw, er mwyn cyfiawnhau aberth Iris. Cynigia Phugas i Marc fod yn olynydd iddo, a'i gynorthwyo gydag anfoniad yr offeiriad.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Nododd Saunders Lewis mewn llythyr at Robert O. F Wynne ym mis Medi 1955, ei fod yn "gresynu" na chafodd Gymerwch chi Sigaret? ei gweld am y tro cyntaf ar lwyfan Theatr Garthewin, fel ei ddramâu blaenorol.[5]
Erbyn i'r ddrama gael ei llwyfannu am y tro cyntaf ym Medi 1955, roedd Saunders Lewis eisioes wedi profi llwyddiant mawr gyda'i ddrama flaenorol Siwan, y flwyddyn cynt. Ond "croeso cymysg" a gafodd y "ddrama go ddadleuol" hon, yn ôl M. Rhiannon Thomas yn rhaglen cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd, ym 1987.[3] "Testun" y ddrama fu'r broblem, yn ôl Rhiannon, gan nodi mai "talp o bropoganda Pabyddol" yw hi, yn ôl "Cyhoeddwyr Saunders Lewis".[3]
"Gwrthdaro rhwng Comiwnyddiaeth a Phabyddiaeth gyda chymeriad cryf yn cynrychioli Pabyddiaeth yn effeithiol tra fod y cymeriad comiwnyddol yn un gwan. Symptom oedd hyn o'r siom y teimlai Cymru Ymneilltuol o glywed fod Cymro da fel Saunders Lewis [...] wedi troi'n Babydd".[3]
Ysgrifennodd Saunders ymateb i'r cyhuddiadau, yn y Rhagair i'r cyhoeddiad ym 1956, yn mynnu mai "cyfrwng sâl i bropoganda yw drama".[3] Mynnai ef a'i gefnogwyr mai yn y cymeriadau fel unigolion y mae gwir ddiddordeb pob dramodydd, "ac os oes gwrthdaro syniadol yn y ddrama, gwrthdaro ydyw rhwng y rhai sydd â chred o ryw fath i'w cynnal mewn bywyd a'r rhai sydd heb gred o fath yn y byd".[3]
Ar glawr y cyhoeddiad ym 1956, nodwyd "Y mae cyhoeddi'r ddrama hon yn ddigwyddiad o bwys yn hanes Cymru.Bu llawer o ddadlau ynglŷn â hi, ond yn awr dyma gyfle i'r darllenydd ei hastudio'n ofalus, a hynny yng ngolau yr hyn a ddywed yr awdur ei hun am y cymhellion barodd iddo'i hysgrifennu. Ni bu gwaith mwy darllenadwy yn nwylo neb."[4]
Ym ei chyfrol Saunders Lewis a Theatr Garthewin [Gomer 1995] mae Hazel Walford Davies yn olrhain hanes cythryblus ceisiadau Wynne o Garthewin i gyfieithu a darlledu'r ddrama yn Saesneg, a hynny yn groes i ddymuniadau a chaniatâd Saunders Lewis.[5]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Iris
- Marc
- Calista
- Phugas
- Y Capten Christopher
- Swyddog
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]1950au
Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf ar 23 Medi 1955 gan "Chwaryddion y Cyngor Celfyddydau" yng Ngŵyl Ddrama Genedlaethol Llangefni.[5] Cynhyrchydd [cyfarwyddwr] Herbert Davies; "Darlunydd y llwyfan" [cynllunydd] David Tinker; cast:[4]
- Iris - Siân Phillips
- Marc - Emyr John
- Calista - Margaret John
- Phugas - Glanffrwd James
- Y Capten Christopher - Dennis Jones
- Swyddog - Beti James.
Tra'n ymarfer y cynhyrchiad yma'n 1955 y cafodd Siân Phillips y cyfle i gwrdd â Saunders Lewis. "Dwi'n cofio fe'n dod i'r rehersals", meddai, "Roedd e mor fach - yn ddyn bach, bach, gyda phen mawr. O'n i'n dwlu ar y ddrama ac felly 'nes i gwrdd â fe. Dechreuodd e ail-sgrifennu pethe i fi ac egluro pethe, a daethon ni'n ffrindiau - roedd e'n ddoniol iawn ac yn lyfli."[6]
Addaswyd y ddrama ar gyfer y Radio yn yr un flwyddyn.
1970au
Cyflwynodd Theatr yr Ymylon y ddrama ym 1978.[7] Cyfarwyddwr; Wynfford Ellis Owen.
- Iris - Eluned Jones
- Marc - Michael Povey
- Calista - Christine Pritchard
- Phugas - Stewart Jones
- Y Capten Christopher - John Pierce Jones
- Swyddog -
Mae Stewart Jones yn sôn am y profiad yn ei hunangofiant, a bod Norman Florence wedi mynnu mai cynhyrchiad dwyieithog fyddai hon o waith Theatr yr Ymylon. "I ba ddiben, Duw â ŵyr. Eleanor Roberts, oedd yn gweithio i'r cwmni fel rheolwr llwyfan, gymrodd y cyfrifoldeb o gyfieithu'r ddrama, ac mi wnaeth gyfieithiad ardderchog", cofia Stewart.[8] Ond yn anffodus, wedi cychwyn ymarfer a dysgu, cyffesa "nad oedden ni ddim hyd yn hyn wedi cael sêl bendith Saunders Lewis ei hun ar y cyfieithiad Saesneg. Felly bu rhaid i gynrychiolwyr y cwmni deithio i'w gartref ym Mhenarth i ymweld â'r gwron. Doedd o ddim yn ymweliad llwyddiannus. Yr ateb gawson nhw oedd bod yna gyfieithiad o Gymerwch chi Sigarét? yn bod yn barod ac mai hwnnw, a dim ond hwnnw, fyddai'n cael sêl bendith y dramodydd”, ychwanegodd.[8]
1980au
Ail-lwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Gwynedd ym 1987, yn fuan wedi marwolaeth Saunders Lewis. Cyfarwyddwr William R. Lewis; cynllunydd Martin Morley; goleuo Tony Bailey Hughes; cast:
- Iris - Judith Humphreys
- Marc - Richard Elfyn
- Calista - Maureen Rhys
- Phugas - J.O. Roberts
- Y Capten Christopher - Trefor Selway
- Swyddog - Amlyn Hedd

Addasiadau ffilm
[golygu | golygu cod]Cafodd y ddrama lwyfan ei addasu ar gyfer y sgrin fawr gan Harri Pritchard Jones ym 1991, a'i ryddhau gan Ffilmiau Tŷ Gwyn o dan yr enw Sigaret? Morfudd Hughes ac Eryl Huw Phillips oedd yn portreadu'r ddau gariad. Ymysg yr actorion eraill roedd John Ogwen, Marged Esli, Wyn Bowen Harries, Dewi Rhys ac Alun Elidyr.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Open Library
- ↑ 2.00 2.01 2.02 2.03 2.04 2.05 2.06 2.07 2.08 2.09 2.10 2.11 2.12 2.13 2.14 2.15 2.16 2.17 2.18 2.19 2.20 2.21 2.22 2.23 2.24 2.25 2.26 2.27 2.28 Lewis, Saunders. Gymerwch Chi Sigaret?. Llyfrau'r Dryw.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 Cwmni Theatr Gwynedd (1987). Rhaglen Gymerwch Chi Sigaret?.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Lewis, Saunders (1956). Gymerwch chi Sigaret. Llyfrau'r Dryw.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 Davies, Hazel Walford (1995). Saunders Lewis a Theatr Garthewin. Gomer.
- ↑ "Bywyd a gyrfa yr actores Siân Phillips". BBC Cymru Fyw. 2021-12-24. Cyrchwyd 2025-08-03.
- ↑ "https://discover.library.wales/discovery/fulldisplay?docid=alma9942280402419&context=L&vid=44WHELF_NLW:44WHELF_NLW_NUI&lang=en&adaptor=Local%20Search%20Engine&tab=In_The_Library&query=creator,exact,Lewis%20Saunders,AND&facet=creator,exact,Lewis%20Saunders&mode=advanced&offset=0". discover.library.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-03. External link in
|title=(help) - ↑ 8.0 8.1 Jones, Stewart (2001). Dwi'n Deud Dim. Dweud Ydw I. Gwasg Gwynedd. ISBN 978-0860741794.