Neidio i'r cynnwys

Excelsior

Oddi ar Wicipedia
Excelsior
Enghraifft o'r canlynoldrama Edit this on Wikidata
AwdurSaunders Lewis
CyhoeddwrGwasg Christopher Davies
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1980
GenreDrama

Drama ddychanol gan Saunders Lewis yw Excelsior a gyfansoddwyd ar ddechrau'r 1960au fel drama i deledu. Ni chyhoeddwyd y ddrama lwyfan tan 1980.

Fe'i sgwennwyd gan Saunders Lewis ar gais y BBC i'w dangos ar Ddygwyl Dewi 1962 a'i hail-ddarlledu ar ôl hynny. Ond achoswyd cymaint o helbul gan y darllediad cyntaf fel na ddarlledwyd hi am yr ail dro yn wyneb bygythiad gan yr Aelod Seneddol Lafur Leo Abse i fynd â'r dramodydd a'r Gorfforaeth i'r gyfraith am enllib. Ceir yr hanes yn llawn yn rhagymadrodd Saunders i'r ddrama lwyfan.

Comedi ddychanol am fyd gwleidyddiaeth Cymru a geir yn Excelsior; golwg deifiol ar ysbryd uchelgais mewn unigolion a pharodrwydd gwleidyddion (o bob lliw) i werthu eu hegwyddorion.

Dyma'r gyntaf o dair drama sy'n trafod materion neu fywyd cyfoes yng Nghymru, gyda Problemau Prifysgol a Cymru Fydd yn ei dilyn. "Ni chafodd y gyntaf ei dangos ond unwaith ar y sgrin deledu", yn ôl Saunders Lewis yn ei Ragair i gyhoeddiad Cymru Fydd ym 1967: "[...] Y mae cyfraith athrod Lloegr yn lladd dychan [...] Am yr ail ddrama ni fynnai neb mohoni; nis llwyfannwyd, nis teledwyd, nis cyhoeddwyd, druan fach. A hynny, yn ôl llawer beirniad, a ddylsai fod yn dynged Cymru Fydd. Ond i mi y maent yn driawd."[1]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Huw Huws - Aelod Seneddol y Blaid Lafur.
  • Magi Huws - ei wraig.
  • Dot Huws - ei ferch.
  • Y Parchedig Crismas Jones.
  • Dic Sarc, Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid Lafur.

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]
Cast Excelsior 1962 BBC

1960au

[golygu | golygu cod]

Cafodd y ddrama ei ddarlledu ar BBC Cymru ar y 1af o Fawrth 1962. Cynhyrchydd David J Thomas. Cast:[2]

Rhaglen Excelsior Cwmni Theatr Gwynedd 1992
Cast Excelsior 1992

1990au

[golygu | golygu cod]

Llwyfanwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Gwynedd ym 1992 gan fynd â'r cynhyrchiad ar daith drwy Gymru ym mis Mawrth ac Ebrill. Ymwelwyd â Bangor, Abertawe, Caerdydd, Harlech, Aberystwyth, Y Drenewydd a'r Wyddgrug. Cyfarwyddwr y cynhyrchiad oedd Graham Laker a Martin Morley oedd yn cynllunio.Cast:


Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Lewis, Saunders (1967). Cymru Fydd. ISBN 0 7154 0317 6.
  2. Rhaglen Excelsior Cwmni Theatr Gwynedd 1992.


Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.