Amlyn ac Amig (drama)
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1939 |
| Awdur | Saunders Lewis |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1940 |
| Cysylltir gyda | Theatr Garthewin |
| Genre | comedi |
| Dynodwyr | |
Drama radio "gomedi" Gymraeg gan Saunders Lewis ydy Amlyn ac Amig a gyfansoddwyd yn wreiddiol ym 1939, i'w darlledu ar Radio'r BBC, wedi llwyddiant Buchedd Garmon. Ond oherwydd yr Ail Ryfel Byd, ni ddarlledwyd y ddrama yn Gymraeg tan 2 Chwefror 1947.[1] Cyhoeddwyd y ddrama gyntaf ym 1940 gan Wasg Aberystwyth a bu i Chwaraewyr Garthewin ei llwyfannu yn Theatr Garthewin ym mis Ionawr 1947. Cafodd cyfieithiad Saesneg o'r ddrama - A Christmas Candle, ei ddarlledu yn Iwerddon ym mis Rhagfyr 1945.[2]
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]Noda Saunders Lewis yn rhaglen cynhyrchiad Chwaraewyr Garthewin mai "Comedi yw hi ond comedi pethau dwyfol, ac aberth yw ei thestun."[3]
"Cân yw hi am y pethau hynny y rhoes y Nadolig cyntaf santeiddrwydd iddynt— cartref, teulu, plant bach, cariad, cyfeillgarwch, ac fe glywir y rhain oll ynghyd yn y terfyn pan gyflwyni'r aur, a thus, a myrth yn aberth i'r Plentyn Dwyfol yn y preseb."[3]
Dewisiodd addasu stori Ffrangeg o'r un enw a fu'n boblogaidd iawn drwy Ewrop yn yr Oesoedd Canol. Ceir fersiwn Gymreig ohoni yn Llyfr Coch Hergest, o'r 14g.[4] Nid yw'r stori wreiddiol wedi'i gosod dros gyfnod y Nadolig.
Mae ddrama yn ymwneud â dau gyfaill [Amlyn ac Amig] sydd "mor debyg i'w gilydd â dau efell".[3] Bedyddwyd y ddau gan y Pab yn Rhufain a "rhoes ef iddynt ddau gwpan: 'ffiolau o eurychwaith odidog o aur ac o arian [...] ac nid oedd yn fyw ddyn a wypai wahaniaeth rhyngddynt'".[3]
Wedi tyfu'n "wŷr", mae'r ddau gyfaill yn tyngw llw o deyrngarwch i'w gilydd, "yn eglwys Sant Jermin yn y meysydd gerllaw Paris" - llw sy'n addo "na phallai neb ohonynt i'w gilydd nac o gariad, nac o gyngor, nac o gynhorthwy tra fai fyw, herwydd cyfiawnder cyfraith Duw o bopeth a berthynai ar gydymdeithas gywir".[3]
Yn ystod eu bywyd, mae'r ddau yn wynebu cyfres o heriau sy'n codi cwestiynau am deyrngarwch a ffydd. Yn y gorffennol, bu i Amig achub bywyd Amlyn, drwy ei gynrychioli [yn ddi-wybod i'w 'elynion] mewn "twrnameint". Wedi ennill y dydd, mae Amlyn yn cael priodi merch yr ymerawdwr Chyarlymaen, ac yn etifeddu "castell a daear yn Normandi".[3]
Pan ddychwela'r Iarll Amig i Lys yr Iarll Amlyn, sawl blwyddyn wedi hynny, yn glaf o'r gwahanglwyf, mae'n cael neges gan Yr Archangel Raffael, sy'n rhaid ei drosglwyddo i'w gyfaill. Er mwyn gwella Amig o'r gwahanglwyf, mae'r Archangel yn gofyn i Amlyn aberthu ei ddau fab ifanc, drosto. Dyma'r cyfyng gyngor sy'n ganolog i ddrama Saunders. A all Amlyn gyflawni'r fath weithred erchyll, er mwyn achub eraill? Mae adlais Crefyddol dyfn i stori'r ddrama sy'n ein hatgoffa am aberth Abraham a'i fab Isaac.[5]
Er i Amlyn gyflawni'r weithred, datgelir ar ddiwedd y ddrama bod y plant yn fyw ac yn holliach, a gorffennir y ddrama yn sain y garol O! Deuwch Ffyddloniaid.
Y Ffŵl yn y ddrama sy'n codi'r elfen gomedïol, ac mae'r cymeriadau eraill [Bardd, Porthor, Merched a'r Côr] yn adlais o'r Corws mewn drama Roegaidd.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Mae'r fersiwn gyntaf o'r stori yn y Lladin ac yn dyddio i 1090. Mae'r stori wreiddiol yn perthyn i Oes y Celtiaid.[4]
Mae'r ddrama ar ffurf cerdd yn cylchdroi dros y syniad fod achubiaeth yn ddibynnol ar weithred o'r galon, gweithred afresymol, ar un golwg. Yn ei isymwybod, efallai fod Saunders yn ceisio esbonio pam y gweithredodd gwta 4 mlynedd ynghynt pan y llosgodd ysgol fomio Prydeinig Penyberth ar 8 Medi 1936.
Yn y Rhagair ym 1940, nodai Saunders mai cais gan T. Rowland Hughes o'r BBC ym mis Gorffennaf 1939 "imi ysgrifennu rhaglen fydryddol i'w ddarlledu ar ddydd Nadolig 1939" oedd y ddrama. Ychwanegodd ei fod wedi cwblhau "y ddwy ran gyntaf cyn mis Medi" ond oherwydd yr Ail Ryfel Byd, ni orffennodd y ddrama tan "bythefnos ar ôl y Calan 1940".[3]
Pan gyhoeddwyd y ddrama ym Mai 1940, penderfynodd perchennog Plasdy Garthewin yn Nyffryn Clwyd, Robert O. F Wynne, bod yn rhaid iddo gyfieithu'r ddrama i'r Saesneg, ynghyd â Buchedd Garmon. Ni orffennodd y gwaith tan mis Tachwedd 1944.[6] Roedd Wynne eisoes wedi addasu ysgubor ar ei ystâd yn Theatr ers 1937. Tra ar ymweliad â'r Iwerddon ym 1943, bu Wynne yn trafod y posibilrwydd o ddarlledu ei gyfieithiad o'r ddrama - A Christmas Candle ar Radio Éireann ac roedd o'n awyddus i Saunders drefnu addasiad llwyfan ohoni hefyd.[2] Methodd Wynne a chanfod gwasg oedd yn barod i gyhoeddi ei gyfieithiad ef, ond bu i Syr Idris Bell lwyddo i gyhoeddi Amis and Amile yn The Welsh Review ym 1948.[2]
Parhaodd Wynne gyda'i fwriad o lwyfannu ei gyfieithiad ef yng Ngarthewin, er bod gan Saunders ei amheuon dros addasu'r ddrama radio i'r llwyfan. Awgrymodd y dylid llwyfannu'r ddrama mewn gwahanol rannau o'r Theatr [tu fewn a thu fas] er mwyn creu cyfanwaith theatrig cofiadwy. Addaswyd rhanau o'r ddrama Gymraeg, at ddibenion y llwyfan, ac ychwanegwyd monolog yn sôn am sut y bu i'r ddau dyngu llw ym Mharis.[2]
Ganol Ionawr 1945, wedi sawl brwydr dros ei gyfieithiad, derbyniodd Wynne y newydd bod Radio Éireann am ddarlledu'r ddrama dros gyfnod y Nadolig. Comisiynodd Wynne Arwel Hughes i gyfansoddi cerddoriaeth arbennig ar gyfer y cynhyrchiad a darlledwyd y ddrama yn Saesneg ar 16 Rhagfyr 1945. Yn dilyn nifer o geisiadau, fe'i hail ddarlledwyd ddwywaith - ar y 7 Ionawr 1946 a 12 Ionawr 1947.[2] Bu'n rhaid aros tan 2 Chwefror 1947 i glywed y cynhyrchiad Cymraeg.
Er bod Chwaraewyr Garthewin wedi gobeithio llwyfannu'r ddrama Gymraeg ym mis Rhagfyr 1946, Cwmni o blant ysgol o Langefni dan gyfarwyddyd F. George Fisher oedd y cyntaf i'w pherfformio, a chynhyrchiad Garthewin ddilynodd ym mis Ionawr 1947.[2]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Yr Archangel Raffael
- Amlyn, Iarll Normandi
- Belisent, ei briod
- Ei ddau blentyn
- Amig, iarll a chyfaill iddo
- Bardd
- Ffŵl
- Porthor
- Merched
- Côr
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan gwmni o blant Ysgol y Sir, Llangefni yn mis Rhagfyr 1946. Y cyfarwyddwr oedd F. George Fisher [2]
Cafwyd llwyfaniad o'r ddrama gan Chwaraewyr Garthewin neu "Cwmni Sir Ddinbych" fel y'i gelwid ar y pryd, ym mis Ionawr 1947.[2] Cyfarwyddwr Morris Jones. Cast:
- Raffael - Dafydd Jones
- Amlyn - Edwin Williams
- Belisent - Nellie Morris
- Ei ddau blentyn - Jennifer a Gillian Morris
- Amig - Meirion Roberts
- Bardd - Emrys Cleaver
- Ffŵl - Raymond Edwards
- Porthor - William Pritchard
- Merched - Mair Rowlands ac Olwen Parry
- Côr - Aelwyd Llansannan
- [Gweinydd - Dafydd Jones]
Er i Kate Roberts ganmol y cynhyrchiad yn Y Faner, roedd llu o broblemau technegol ac ymarferol, a cheir eglurhad llawn yng nghyfrol Hazel Walford Davies, Saunders Lewis a Theatr Garthewin (Gomer 1995),[2] Ni welodd Saunders Lewis y cynhyrchiad yma.[2]

Ail lwyfannwyd y ddrama yng Ngharthewin ym 1966 gyda'r cwmni canlynol, o dan gyfarwyddyd Morris Jones.[2]
- Raffael -
- Amlyn - Trefor Selway
- Belisent - Dilys Williams
- Ei ddau blentyn -
- Amig - Owen Huw Roberts
- Bardd -
- Ffŵl -
- Porthor -
- Merched -
- Côr -
Llwyfannwyd y ddrama gan Gymdeithas Ddrama Coleg Prifysgol Bangor, ac fe ddefnyddiwyd y cynhyrchiad fel sail i addasiad teledu ohoni ar gyfer S4C ym 1986.[7]
Addasiadau
[golygu | golygu cod]1940au - 1960au
[golygu | golygu cod]Addasiad radio o gyfieithiad Robert Wynne - A Christmas Candle oedd y cynhyrchiad cyntaf i'w darlledu, gan Radio Éireann yn Iwerddon ar 16 Rhagfyr 1945; cast yn cynnwys Christopher Casson [mab Sybil Thorndike] Ronald Gibbs, ac actorion eraill o Theatr yr Abaty.[2] Ail-ddarlledwyd y ddrama ym 1947 gyda'r cast Cyril Cusack, Florence Lynch, Una Collins, Liam Gaffney, Harry Brogan, Joseph O'Dea, Frank Purcell, Bart. Barnstable, Anne Fagan (telyn) a Thomas O'Suilleabhain (caneuon).[2]
Darlledwyd y ddrama Gymraeg ar Radio'r BBC yng Nghymru ar yr 2 Chwefror 1947.[1] Cyfansoddwyd cerddoriaeth wreiddiol gan Arwel Hughes ar gyfer y ddrama, a'r cynhyrchydd [cyfarwyddwr] oedd Dafydd Gruffydd.[1] Cast:[2]
- Raffael - Herbert Davies
- Amlyn - Hugh Griffith
- Belisent - Mair Howells
- Amig - W. H. Roberts
- Bardd - Meredydd Evans
- Ffŵl - Gunstone Jones
- Porthor - Prysor Williams
Cyfieithwyd y ddrama i'r Saesneg, a'i darlledu ar y 'Welsh Home Service' y BBC dros gyfnod y Nadolig 1948 o dan yr enw newydd The Christmas Candle.[8]
1970au - 1990au
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y ddrama gan ddisgyblion Ysgol y Gader, Dolgellau ym 1973.
Ym 1986, darlledwyd addasiad i deledu o'r ddrama ar S4C gyda Wil Aaron yn cyfarwyddo.[7] Gareth Glyn oedd yng ngofal y gerddoriaeth.[9]
Darlledwyd y ddrama ar BBC Radio Cymru ym 1988. Ymysg y cast roedd Nesta Harris.
Cyfieithwyd y ddrama gan Tony Conran ym 1988, a'i galw'n The Vow, a'i darlledu ar BBC Radio 3.[10] Ymysg y cast roedd Ray Smith a Bernard Lloyd.
Dyfyniad o'r ddrama
[golygu | golygu cod]- Rhodio fel un a wêl a gwybod nos y deillion Yw bywyd beunyddiol ffydd. (Amig)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Welsh Radio Notes". Herald of Wales. 1 Chwefror 1947.
- ↑ 2.00 2.01 2.02 2.03 2.04 2.05 2.06 2.07 2.08 2.09 2.10 2.11 2.12 2.13 Davies, Hazel Walford (1995). Saunders Lewis a Theatr Garthewin. Gomer. ISBN 1859022928.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 Williams, Ioan (1996). Dramâu Saunders Lewis - Cyfrol 1. Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0708311822.
- ↑ 4.0 4.1 Celtic Culture, Llyfrau Googl; adalwyd 16 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Isaac | beibl.net". beibl.net. Cyrchwyd 2025-08-16.
- ↑ Davies, Hazel Walford (1995). Saunders Lewis a Theatr Garthewin. Gomer. ISBN 9781859022924.
- ↑ 7.0 7.1 "Manylion S4C". discover.library.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-16.
- ↑ "Christmas Week Welsh Radio". Herald of Wales. 18 Rhagfyr 1948.
- ↑ (yn en) Gareth Glyn: Amlyn ac Amig thema/theme (mediaeval instruments), https://soundcloud.com/garethglyn/gareth-glyn-amlyn-ac-amig, adalwyd 2025-08-16
- ↑ "Radio". Hartlepool Northern Daily Mail. 23 Rhagfyr 1988.