Ysgrifau Dydd Mercher
Jump to navigation
Jump to search
Casgliad o ysgrifau Cymraeg ar bynciau llenyddol a diwylliannol gan Saunders Lewis yw Ysgrifau Dydd Mercher. Fe'i cyhoeddwyd gan Y Clwb Llyfrau Cymreig, wedi'i argraffu gan Gwasg Gomer, yn Awst 1945. Cyhoeddwyd y rhan fwyaf o'r ysgrifau yn Y Faner yn wreiddiol; gofynnodd E. Prosser Rhys i'r awdur ddethol yr ysgrifau ar gyfer y gyfrol. Bu farw Prosser Rhys cyn cyhoeddi'r gyfrol a chyflwynodd Saunders y llyfr i'w goffadwriaeth.[1]
Cynnwys[golygu | golygu cod y dudalen]
Ceir 14 adolygiad ac ysgrif, sef:
- 'Ffrainc cyn y Cwymp'
- 'Lle pyncid cerddi Homer'
- 'Gerallt Gymro'
- 'Cyfnod y Tuduriaid'
- 'Machiavelli'
- 'Gruffydd Robert'
- 'Charles Edwards'
- 'Y Cymmrodorion'
- 'Alfredo Panzini'
- 'Emrys ap Iwan'
- 'Eluned Morgan'
- 'Cymry Patagonia'
- 'Diwylliant yng Nghymru'
- 'Edward Prosser Rhys'
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Ysgrifau Dydd Mercher, Rhagair Saunders Lewis.