Saer Doliau
Awdur | Gwenlyn Parry |
---|---|
Cyhoeddwr | Llyfrau'r Dryw |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1966 |
Cysylltir gyda | Cwmni Theatr Cymru |
Math | Drama Gymraeg |
Drama alegorïol Gymraeg gan Gwenlyn Parry yw Saer Doliau, a gyhoeddwyd ym 1966. Llwyfannwyd y ddrama'n wreiddiol gan Gwmni Theatr Cymru. Torrodd y ddrama dir newydd yn y Theatr Gymraeg pan ganodd y ffôn ar ei diwedd hi, er bod gwifren gysylltu'r ffôn wedi'i thorri. Bu damcaniaethu byth ers hynny dros bwy oedd yn ffonio a pham. Hanes Ifans y saer a geir, sy'n creu doliau o bob lliw, yn ei weithdy. Ond mae bywyd yr hen saer yn cael ei styrbio pan ddaw dau ymwelydd ifanc heibio.
Cefndir
[golygu | golygu cod]"Yr unig beth yr hoffwn i ddweud am SAER DOLIAU yw mai rhyw fath o alegori ydi hi [...] alegori am wrthryfel cymdeithasol," meddai'r dramodydd, yn y rhagair i'r cyhoeddiad ym 1966.
"Gall y gwrthryfel fod rhwng dwy genhedlaeth, rhwng dyn ac amgylchedd sydd yn newid yn rhy gyflym iddo, neu rhwng dyn a Duw. Annoeth fuasai i mi geisio ei hesbonio gan mai drama ydyw lle gellir cael mwy nag un dehongliad iddi. Rwyf o leiaf wedi clywed pump gwahanol ddehongliad yn barod ac i mi y mae pob un yn dal dŵr. Beth bynnag a wêl yr unigolyn ynddi yw neges y ddrama - os oes iddi neges o gwbl, y cyfan wnes i oedd ceisio dal drych i sefyllfa sydd eisoes yn bod.[...] Os oes eisiau ansoddair i'w disgrifio efallai y dwedwn mai drama grefyddol ydyw".[1]
"Yn ddi-os fe roddodd y ddrama ysgytwad mawr i gonfensiynoldeb y theatr Gymraeg ym 1966", yn ôl cyfarwyddwr cynhyrchiad Arad Goch (1991) ohoni; "...Ni welwyd drama safonol o'i bath - o ran ei chynnwys, ei themau a'i strwythr - erioed o'r blaen yn y Gymraeg," ychwanegodd Jeremy Turner.[2]
Un fu'n gweld y llwyfaniad gwreiddiol ym 1966 oedd y darlledwr Aneirin Talfan Davies, a soniodd am y profiad yn rhagair yr ail gyhoeddiad o'r ddrama ym 1986 : "Pa beth bynnag yw ein barn ni am wedduster dramatig caniad olaf y teleffôn yn y ddrama hon, y mae un peth yn sicr, fe ganodd yng nghalonnau nifer mawr o Gymry ar hyd a lled y wlad. Ni fu erioed y fath drafod ar ddrama; ni fu erioed y fath chwilio i'r sumbolau sy'n ei chynnal; ond yn fwy na dim, fe barodd chwilio'n ddyfnach i greisis enaid ein cymdeithas. Gwnaeth lawer mwy na llu o bregethau, ysywaeth, i'n dihuno o leiaf i'n holi'n hunain; a dyna ddechrau doethineb."[3]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Ifans - y saer
- Y Ferch
- Y Llanc
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]1960au
[golygu | golygu cod]- Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru ar daith y Gwanwyn ym 1966. Cyfarwyddwr Wilbert Lloyd Roberts; cynllunydd Suzanne Billings; cast:
- Ifans - David Lyn
- Y Ferch - Gaynor Morgan Rees
- Y Llanc - Owen Garmon
Un a welodd y cynhyrchiad gwreiddiol oedd y darlledwr Aneurin Talfan Davies, a ddisgrifiodd y profiad yn Rhagair yr ail-argraffiad ym 1986 : "Gwelais y ddrama hon ar lwyfan yng Nghaerdydd, ac yr oedd yn noson wefreiddiol, ysol, a barodd i'r gynulleidfa gyd-ddioddef a chyd-dyheu â'r hen saer doliau yn ei wewyr di-rwymedi. A phan ganodd cloch y teleffôn, y'n harweiniwyd i gredu ei bod wedi'i hen ddatgysylltu, a'r 'giaffar' wedi hen ddiflannu, (os bu e' yno o gwbl) aeth geiriau John Donne drwy fy meddwl: "never send to know for whom the bell tolls; it tolls for thee.""
1990au
[golygu | golygu cod]- Llwyfannwyd y ddrama gan gwmni theatr Arad Goch ym 1991. Cyfarwyddwr Jeremy Turner; cynllunydd Steve Mattison; cynllunydd y poster Ruth Jên Evans; cast:
- Ifans - Wynford Ellis Owen
- Y Ferch - Gwen Lasarus
- Y Llanc - Rhys Bleddyn
2010au
[golygu | golygu cod]- Cafwyd cynhyrchiad o'r ddrama yn Gymraeg yn Theatr Y Finborough, Llundain yn 2013 ar y cyd gyda Chwmni Theatr Invertigo.[4] Cyfarwyddwr Aled Pedrick; cynllunydd Alex Parker; goleuo Joel Tully; cast
- Ifans - Seiriol Tomos
- Y Ferch - Catherine Ayers
- Y Llanc - Steffan Donnolly
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Parry, Gwenlyn (1966). Saer Doliau. Llyfrau'r Dryw.
- ↑ Turner, Jeremy (1991). Rhaglen Arad Goch o gynhyrchiad Saer Doliau.
- ↑ Parry, Gwenlyn (1986). Saer Doliau. Christopher Davies. ISBN 0 7154 0676 0.
- ↑ "Saer Doliau – Finborough Theatre" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-01.