Miri Mawr

Oddi ar Wicipedia
Miri Mawr
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Darllediad
Sianel wreiddiol HTV Cymru
Fformat llun 576i (4:3 SDTV)
Rhediad cyntaf yn 1972 – 1978

Cyfres deledu Cymraeg i blant yn yr 1970au oedd Miri Mawr. Fe'i cynhyrchwyd a'i darlledwyd ar sianel HTV Cymru yn yr adeg cyn sefydlu S4C. Byddai'n cael ei darlledu ynghanol amserlen rhaglenni Saesneg HTV - unig sianel fasnachol y cyfnod. Ail-ddarlledwyd rhai cyfresi ar S4C yn yr 1980au cynnar a'r 1990au.

Arddull[golygu | golygu cod]

Roedd y rhaglen yn llenwi rhyw 30 munud yn yr amserlen (gan gynnwys toriad hysbysebion). Fformat y rhaglen oedd bod amrywiaeth o gymeriadau annwyl, doniol a drygionus yn trafod thema arbennig, er enghraifft 'arlunio' a bod yna wedyn eitemau ffilm wedi eu rhag-recordio ar y thema hynny. Roedd y rhaglen felly yn ceisio cyfuno natur hwyliog i apelio at blant ysgol cynradd a chyn-arddegau ond gan gynnwys elfen addysgiadol a fu'n rhan anhepgor o gynnwys gymaint o raglenni plant y cyfnod. Roedd y cymeriadau wedi eu lleoli mewn 'ogof' a daeth teitlau y rhaglen yn adnabyddus wrth i graig hollti yn ddwy i agor ar panorama o'r criw llon a checrus yn trafod thema'r rhaglen.

Roedd y rhaglen hefyd yn cynnwys fersiwn Cymraeg o'r cartŵn Calimero.

Thema'r gyfres oedd dôn y Blue Bottle[1] gan The Frank Barcley Group.

Cymeriadau[golygu | golygu cod]

Daeth nifer o'r cymeriadau'n boblogaidd iawn ac yn adnabyddus ymysg plant. Byddant wedyn yn cefnogi ymgyrchoedd poblogaidd torfol gan fudiadau fel Urdd Gobaith Cymru.

Rhoddodd y gyfres hefyd gyfle i nifer o action ifanc y cyfnod feithrin profiad ac ennill bywoliaeth. Ymysg yr actorion adnabyddus a aeth ymlaen i fod yn enwau cyfarwydd ar lwyfannau a theledu Cymru.

Cynhyrchydd y gyfres oedd Peter Elias Jones[3][4] yn wreiddiol o Langefni, Ynys Môn a gynhyrchodd sawl cyfres boblogaidd arall i blant gan gynnwys Ffalabalam, Ibiza, Ibiza a Jacpot. Sgriptiwyd y rhaglen gan Clive Roberts a John Pierce Jones.

Marchnata[golygu | golygu cod]

Cymaint oedd poblogrwydd y gyfres fel y cynhyrchwyd gludyddion gyda wynebau'r cymeriadau.

Yn 1974 rhyddhawyd record sengl 7" Miri Mawr, "Byta Allan" gan Recordiau Sain[5]. Cyhoeddwyd y llyfr Miri mawr i blant Cymru yn 1972 ac Ail lyfr, Miri Mawr yn 1974.

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]