Ffalabalam

Oddi ar Wicipedia
Ffalabalam
Genre Rhaglen i blant
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Darllediad
Sianel wreiddiol HTV Cymru a S4C
Darllediad gwreiddiol 1980 – 1989

Rhaglen deledu Cymraeg i blant oedd Ffalabalam. Cychwynodd y gyfres ym 1980 a daeth i ben yn 1989, gyda dros 1,000 o benodau wedi eu darlledu.[1] Cynhyrchwyr y rhaglen oedd HTV Cymru ac fe'i ddangoswyd ar HTV Wales yng Nghymru cyn symud i S4C yn 1982.[2]

Roedd teitlau'r rhaglen wedi ei greu o luniau gan blant wedi ei animeiddio, a plant yn canu enw'r rhaglen. Pentref Ffalabalam oedd lleoliad y gyfres gyda adeiladau bychan wedi eu gosod mewn stiwdio. Roedd sawl tedi, doli ac anifail tegan yn byw yn y pentref yn cynnwys Dilys Draenog, Tedi Pinc, Sara, Nain, Meical y Mwnci, Owain Oen, Ken Kangarw, Bwni Binc, Lleucu'r Llwynog, Arth Frown, Huwcyn, Penri'r Pengwyn. Byddai'r ddau gyflwynydd yn crwydro'r pentre ac adrodd y stori drwy leisio meddyliau y cymeriadau a chanu caneuon.

Cyflwynwyr[golygu | golygu cod]

(rhestr anghyflawn)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2  'Dyma 1980' ar wefan Cofio. BBC Cymru.
  2. "Catalog LlGC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-26. Cyrchwyd 2015-12-09.
  3. 3.0 3.1  Mewn Llun: Rhaglenni S4C dros y 30 mlynedd diwethaf. BBC Cymru (31 Hydref 2012).
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3  Karen Price (22 Rhagfyr 2009). Ffalabalam’s trip down memory lane. WalesOnline.(Saesneg)
  5. Gwefan Equity[dolen marw](Saesneg)
  6.  Welsh language panto Draw Dros Y Don heads to Ystradgynlais Miners Welfare. South Wales Evening Post (7 Tachwedd 2013).(Saesneg)
  7. Cofio, Siw Hughes; Adalwyd 2015-12-09

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]