Huw Ceredig

Oddi ar Wicipedia
Huw Ceredig
GanwydHuw Ceredig Jones Edit this on Wikidata
22 Mehefin 1942 Edit this on Wikidata
Brynaman Edit this on Wikidata
Bu farw16 Awst 2011 Edit this on Wikidata
Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor teledu Edit this on Wikidata
TadGerallt Jones Edit this on Wikidata
MamElizabeth Griffiths Edit this on Wikidata

Actor a chenedlaetholwr o Gymro oedd Huw Ceredig, ganwyd Huw Ceredig Jones (22 Mehefin 194216 Awst 2011)[1][2] a chaiff ei adnabod yn bennaf am ddarlunio cymeriadau mewn rhaglenni teledu Cymraeg ac ambell ffilm.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd ym Mrynaman ym 1942, yn fab i'r Parchedig Gerallt Jones, ac Elizabeth J. Griffiths,[3][4] athrawes Cymraeg. Roedd yn un o deulu Bois y Cilie,[5] ac roedd yn frawd i'r ddau wleidydd Dafydd Iwan ac Alun Ffred Jones, ac Arthur Morus.[6][7] Magwyd Ceredig yn Llanuwchllyn ac addysgwyd ef yng Ngholeg Llanymddyfri, un o'i athrawon yno oedd y chwaraewr a'r hyfforddwr rygbi Carwyn James. Aeth ymlaen i hyfforddi fel athro yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.

Cymerodd ail-forgais ar ei dŷ er mwyn prynu offerynnau ar gyfer y band newydd Cymreig Edward H. Dafis a chyflwynodd hwy i'r llwyfan am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhuthun ym 1973.[5]

Chwaraeodd gymeriad Reg Harris ar opera sebon S4C Pobol y Cwm am 29 mlynedd o 1974 hyd 2003. Chwaraeodd hefyd ran tad Rhys Ifans a Llŷr Ifans fel "Fatty Lewis" yn y ffilm gomedi dywyll Gymreig Twin Town. Bu hefyd yn actor llais gan gyfrannu at gartwnau SuperTed, ac yn ddiweddarach Meees.[1]

Roedd yn byw yn Nhrelales, ac yn briod â Margaret a roedd ganddynt ddwy ferch. Bu farw Huw Ceredig ar 16 Awst 2011 wedi salwch hir dymor. Roedd Ioan Gruffudd, a chwaraeodd ran ei fab ar Pobol y Cwm am ddeng mlynedd, yn un o'r rhai a roddodd deyrnged iddo.[8] Cynhaliwyd ei angladd yng Nghapel Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr ar 22 Awst 2011.[9]

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Teledu[golygu | golygu cod]

  • Pobol y Cwm - Reg Harries, opera sebon (1974–2003)
  • Z Cars - Det. Con. Probert, cyfres, 1 pennod (1977)
  • The Life and Times of David Lloyd George - D.A. Thomas, cyfres, 1 pennod (1981)
  • Ennal's Point - Len Dunce, cyfres, 4 pennod (1982)
  • The District Nurse - Rowlands, cyfres, 1 pennod (1984)
  • We Are Seven - Jim Powell, cyfres, 12 pennod (1989-1991)
  • Teulu'r Mans - Parchedig Richard Seimons
  • Rebecca's Töchter - Mordecai Thomas, cyfres, 1 pennod (1992)
  • Yr Heliwr - Peter Webb, cyfres, 1 pennod (1997)
  • Emmerdale - George Gibbons, opera sebon, 1 pennod (2003)
  • Heartbeat - Cyril Williams, cyfres, 1 pennod (2005)
  • Doctors - Kenneth Gough, cyfres, 1 pennod (2005)
  • Y Pris - Rhidian Edwards, cyfres, 4 pennod (2007)

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

Llais[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Huw Ceredig wedi marw", BBC, 16 Awst 2011.
  2. "Huw Ceredig".
  3. Mynegai Genedigaethau Lloegr a Chymru: Chwarter: Gorffennaf/Awst/Medi 1942; Enw: Huw C Jones; Cyfenw mam cyn priodi: Griffiths; Ardal cofrestru: Caerfyrddin; Cyfrol: 11a; Tudalen: 1591
  4. Mynegai Priodasau Lloegr a Chymru: Chwarter: Gorffennaf/Awst/Medi 1941; Enwau: Gerallt Jones ac Elizabeth J Griffiths; Ardal cofrestru: Machynlleth; Cyfrol: 11b; Tudalen: 385
  5. 5.0 5.1 "Cofio Huw Ceredig", Golwg 360.
  6.  Party president with folksy touch. BBC Newyddion (5 Ebrill 2005).
  7.  Manylion Personol. Dafydd Iwan. Adalwyd ar 17 Awst 2011.
  8. "Ioan Gruffudd's tribute to Pobol y Cwm's Huw Ceredig", BBC News, 17 Awst 2011.
  9. "Angladd yr actor Huw Ceredig", Newyddion BBC, 22 Awst 2011.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]