Kevin Davies

Oddi ar Wicipedia
Kevin Davies
Ganwyd26 Medi 1963 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyflwynydd teledu, cyflwynydd radio, cynhyrchydd arlein, cynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata

Brodor o Sir Benfro yw Kevin Davies (ganwyd 26 Medi 1963)[1] sy'n adnabyddus fel cyflwynydd radio a theledu Cymraeg.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Addysgwyd Davies yn Ysgol y Preseli, Crymych a graddiodd mewn gradd BSc mewn Cyfrifeg o Brifysgol Caerdydd yn 1985. Roedd yn brif leisydd i'r grŵp roc trwm, Y Diawled.

Gyrfa cyflwyno[golygu | golygu cod]

Mae wedi cyflwyno ar sawl raglen deledu ar S4C. Yn yr 1980au bu'n gyflwynydd ar y rhaglen i blant bach, Ffalabalam[2]. Yn y 1990au cynnar cyflwynodd y rhaglen gerddoriaeth i bobl ifanc Syth. Cyflwynodd y cwis boblogaidd Jacpot rhwng 1993 a 1999. Yn 1995 cyflwynodd y gyfres Penwythnos Mawr[3]. Bu hefyd yn gyflwynydd radio ar BBC Radio Cymru rhwng 1998 a 2008. Rhwng 2006 a 2008 bu'n gynhyrchydd teledu ar gyfer rhaglenni Planed Plant a Cyw.

Rhwng 2018-13 roedd yn Brif Weithredwr Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf. Wedi hynny bu'n gynhyrchydd ar wasanaeth newyddion a chylchgrawn arlein, BBC Cymru Fyw.[4]

Sefydlodd a bu am gyfnod yn rhedeg caffi yn maesdref Radur o Gaerdydd. Lleolwyd 'Caffe Ffa' ar 8A, Ffordd yr Orsaf, Radur.[5][6]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]