Cyfrifeg

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Portread o Luca Pacioli, tad cyfrifeg, wedi'i beintio gan Jacopo de' Barbari, 1495, (Museo di Capodimonte).

Mae cyfrifeg (enw b.) yn faes sy'n ymwneud ag arian, gwybodaeth ariannol, economeg a busnes. Fe'i sefydlwyd gan y mathemategydd Eidalaidd Luca Pacioli ym 1494.[1][2] Gelwir cyfrifeg, weithiau'n "iaith busnes", gan ei bod yn mesur canlyniadau gweithgareddau economaidd sefydliad neu gwmni, gan gyfleu'r wybodaeth hon i amrywiaeth o ddefnyddwyr a chwsmeriaid, gan gynnwys buddsoddwyr, credydwyr, rheolwyr a rheoleiddwyr.[3][4] Adnabyddir ymarferwyr cyfrifeg fel cyfrifwyr. Mae'r termau "cyfrifo" ac "adroddiadau ariannol" yn aml yn cael eu defnyddio fel cyfystyron.

Gellir rhannu'r maes cyfrifeg yn sawl is-faes, gan gynnwys cadw cyfrifon, cyfrifyddu ariannol (financial accounting), cyfrifeg i reolwyr, cyfrifyddu allanol, archwilio (neu 'awdit'), cyfrifo treth a cyfrifeg costau.[5][6] Ceir nifer o systemau cyfrifo wedi'u cynllunio'n arbennig ar gyfer yr is-feysydd hyn, a maesydd cysylltiedig e.e. taenlenni megis LibreOffice Calc ac Excel (Microsoft) . Mae cyfrifyddu ariannol yn canolbwyntio ar adrodd yn ôl ar wybodaeth ariannol y sefydliad, gan gynnwys paratoi datganiadau ariannol; mae'r adroddiad hwn, fel arfer, yn cael ei gyflwyno i ddefnyddwyr allanol y sefydliad e.e. buddsoddwr, rheoleiddwyr a chyflenwyr. Gelwir y weithred o gofnodi'r manylion ariannol hyn yn "gadw cownt" a'r llyfr yn "llyfr cownt", ond ers y 1980au ychydig iawn o gadw cownt sy'n digwydd ar bapur. Y system fwyaf cyffredin yw'r dull a elwir yn 'gofnod dwbl'.[7][6]

Termau eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Pwyllgor Safonau Cyfrifeg: accounting Standards Committee
  • System gyfrifydda: accounting system
  • trywydd archwiliad: audit trail

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Needles, Belverd E.; Powers, Marian (2013). Principles of Financial Accounting. Financial Accounting Series (arg. 12.). Cengage Learning.
  2. Accounting Research Bulletins No. 7 Reports of Committee on Terminology (Adroddiad). Committee on Accounting Procedure, American Institute of Accountants. Tachwedd 1940. http://clio.lib.olemiss.edu/cdm/ref/collection/deloitte/id/9342. Adalwyd 31 Rhagfyr 2013.
  3. Peggy Bishop Lane on Why Accounting Is the Language of Business, Knowledge @ Wharton High School, 23 Medi 2013, http://kwhs.wharton.upenn.edu/2013/09/peggy-bishop-lane-on-why-accounting-is-the-language-of-business/, adalwyd 25 Rhagfyr 2013
  4. "Department of Accounting". Foster School of Business. Foster School of Business. 2013. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2013.
  5. "Accounting Software".
  6. 6.0 6.1 Weber, Richard P., and W. C. Stevenson. 1981. “Evaluations of Accounting Journal and Department Quality.” The Accounting Review 56 (3): 596–612.
  7. Lung, Henry (2009). Fundamentals of Financial Accounting. Elsevier.