Syth
Gwedd
| Syth | |
|---|---|
| Genre | Cerddoriaeth |
| Cyflwynwyd gan | Kevin Davies |
| Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
| Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
| Nifer cyfresi | 4 |
| Cynhyrchiad | |
| Amser rhedeg | 15 munud |
| Cwmnïau cynhyrchu |
Criw Byw |
| Darllediad | |
| Sianel wreiddiol | S4C |
| Fformat llun | 576i (4:3 SDTV) |
| Rhediad cyntaf yn | 1991–1995 |
Rhaglen gerddoriaeth i bobl ifanc oedd Syth a ddarlledwyd o 1991 hyd at 1995. Roedd teitl y rhaglen yn newid bob blwyddyn - Syth '91, Syth '92 ac ati. Fe'i ddarlledwyd yn ystod Slot 23 - brand rhaglenni plant ar S4C yn y cyfnod. Fe gellir ei weld fel brawd bach Fideo 9.
Cyflwynydd y gyfres oedd Kevin Davies a roedd y rhaglenni yn cynnwys fideos, newyddion, siart Cytgord a chystadlaethau. Er mwyn apelio at gynulleidfa ifanc roedd y gyfres yn nodedig am ddelwedd trawiadol gyda graffeg cyfrifiadurol yn cael ei ddefnyddio i gysylltu elfennau'r rhaglen.