Peter Elias Jones

Oddi ar Wicipedia
Peter Elias Jones
GanwydMai 1943 Edit this on Wikidata
Llangefni Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mai 2010 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata

Cynhyrchydd a chyfarwyddwyr teledu o Gymro oedd Peter Elias Jones (Mai 194319 Mai 2010).[1]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Roedd Peter John Elias Jones yn wreiddiol o Langefni. Astudiodd Saesneg a Cherddoriaeth ym Mhrifysgol Leeds.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Aeth i weithio i ITV fel cyfarwyddwr, yn un o'r ifancaf y rhwydwaith ar y pryd.

Daeth yn Bennaeth Rhaglenni Plant HTV Cymru lle bu'n gyfrifol am sawl rhaglen yn y 1970au yn cynnwys Miri Mawr, Ffalabalam, Cwadi Cwac A'i Ffrindiau, y cwis Taro' Mlaen a'r rhaglen gerddoriaeth Seren 2. Aeth ymlaen i fod yn Reolwr Adloniant HTV Cymru lle roedd yn gynhyrchydd ac uwch-gynhyrchydd ar nifer o raglenni adloniant ysgafn fel Teuluffôn, Teulu'r Mans, Torri Gwynt, Ibiza, Ibiza, Camau Cant a Mil, Bwrw Sul, Elinor ar nos Wener a Y Cleciwr.

Ar ôl cyfnod helaeth gyda HTV ymunodd â chwmni Antena er mwyn gweithio i S4C drwy'r sector annibynnol. Yn ystod y cyfnod yma fe gynhyrchodd Flint Street Nativity ar gyfer ITV.[2]

Bu hefyd yn cynhyrchu rhaglenni cwis fel Jacpot a Risg.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn byw yn Dinas Powys, Bro Morgannwg. Bu farw yn sydyn yn ei gartref yn 66 oed yn 2010 gan adael ei wraig Elinor a dwy ferch, Elen a Mari-Wyn

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Teyrnged i 'arloeswr teledu' , BBC Cymru, 19 Mai 2010. Cyrchwyd ar 8 Awst 2017.
  2.  Dathlu bywyd un o arloeswyr y byd adloniant ysgafn. lleol.cymru (1 Awst 2017).