Y Cleciwr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Y Cleciwr
Genre Comedi dychanol
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Nifer cyfresi 4
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 30 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
HTV Cymru
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Fformat llun 576i (4:3 SDTV)
Rhediad cyntaf yn 1985 – 1988

Rhaglen gomedi ddychanol oedd Y Cleciwr a ddarlledwyd ar S4C rhwng 1985 ac 1988. Cynhyrchwyd y gyfres gan HTV Cymru.

Roedd y gyfres wedi ei osod mewn swyddfa cylchgrawn dychmygol ac yn bwrw golwg ar ddigwyddiadau'r wythnos drwy sgetsus a chaneuon dychanol. Roedd y perfformwyr yn cynnwys Bryn Fôn, Sara Harris Davies, Siwan Jones, Dyfan Roberts, Sian Naiomi ac Emyr Roberts.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]