Clive Roberts
| Clive Roberts | |
|---|---|
| Ganwyd | 31 Mai 1944 Trefor |
| Bu farw | 24 Rhagfyr 2020 Ysbyty Gwynedd |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | actor teledu, actor llwyfan |
| Priod | Valmai Jones |
Actor o Gymru oedd Clive Roberts (31 Mai 1944 – 24 Rhagfyr 2020). Bu'n aelod o Gwmni Theatr Cymru yn ystod y 1960au, ac ymddangosodd ar nifer o gyfresi drama a chomedi cynnar y BBC ac S4C fel Fo a Fe, Henllys Fawr, Minafon a Pobol y Cwm. Mae'n adnabyddus hefyd am gael ei garcharu ym 1990 am lofruddio ei gymar, Elinor Wyn Roberts, a threuliodd gyfnod o 12 mlynedd yn y carchar.[1]
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd Clive yn Nhrefor yn fab i Goronwy a Betty Roberts.[2] Ychydig fisoedd cyn ei ben-blwydd yn 5 oed, symudodd ei deulu i Bicester yn Swydd Rhydychen ond dychwelodd i Drefor yn 1956 pan oedd yn 12. Aeth i Ysgol Ramadeg Pwllheli.[3]
Yn blentyn roedd yn adrodd yn Ysgol Sul Capel Gosen yn Nhrefor. Ar gyngor Dr Alwyn Miles ysgrifennodd tad Clive at Goleg Cerdd a Drama Caerdydd i weld os fyddai lle i'w fab yno. Roedd merch Dr Miles, Elisabeth Miles yn astudio yno ar y pryd. Dysgodd Clive un o'r areithiau allan o ddrama Julius Caesar, ac yn ddiweddarach aeth ei dad ag ef lawr i Gaerdydd am glyweliad. Yn fuan wedyn fe'i derbyniwyd fel myfyriwr i'r coleg drama.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Roedd fwyaf enwog am ei ran yn y gyfres gomedi boblogaidd, Fo a Fe a ddarlledwyd yng nghanol yr 1970au. Chwaraeau rhan George, mab Ephraim Hughes (Guto Roberts) y cyn-weinidog eisteddfodol a chapelog. Yn y gyfres roedd yn ŵr i Diana, Gaynor Morgan Rees.
Ymysg ei rannau eraill oedd Cliff James ar gyfres Pobol y Cwm rhwng 1974-1979 a Bili, 'conshi' yng nghynhyrchiad BBC Un Dau Tri (1972)[4]. Roedd hefyd yn rhan o gwmni Theatr yr Ymylon ac am gyfnod yn y 1980au bu'n ddarlithydd drama ym Mhrifysgol Bangor.[5]
Achos llofruddiaeth
[golygu | golygu cod]
Syfrdanwyd Cymru ym 1989 wedi iddo lofruddio ei gariad, y cynorthwydd cynhyrchu, Elinor Wyn Roberts ar 5 Mawrth[6], yn ei chartre' yn Y Felinheli. Gwadodd Roberts y cyhuddiad o lofruddiaeth, ond cyfaddefodd i gyhuddiad o ddynladdiad.[7] Nodwyd yn yr achos "bod anafiadau Miss Roberts yn awgrymu ei bod hi wedi cael ei tharo hefo cadair a'i chicio. Yn ogystal, roedd ganddi farciau ar ei stumog a'i chefn, fel tasa hi wedi cael ei tharo hefo cyllell finiog".[7]
Roedd y ddau wedi bod mewn perthynas, ac wedi byw gyda'i gilydd ers 7 mlynedd yn gyntaf ym Mangor ac wedyn ym Mryn Myfyr, 26 Lôn Bryn Ffynnon, Y Felinheli.[7] Ar ôl bod yn yfed yn nhafarn Victoria yn y pentref, roeddan nhw wedi mynd adref mewn tacsi, a rhwng 11.30 a hanner nos, clywodd y cymdogion "ffrae" a "sŵn bangio uchel".[7] Tair awr yn ddiweddarach, galwyd am ambiwlans a gyrhaeddodd am 4.45 y bore.[7]
Cyfaddefodd Roberts wrth yr heddlu bod y ddau "yn arfer yfed lot" a'u bod nhw wedi yfed potel o wisgi rhynddynt cyn mynd allan i'r dafarn.[7] Dywedodd wrth yr heddlu bod Elinor yn "flin" gydag ef, "am 'mod i wedi prynu dwy fotel o wisgi. Doedd hi ddim yn lecio i mi yfed gwirodydd, am fy mod i wedi bod yn yr ysbyty ychydig ddyddiau ynghynt, ac oherwydd 'mod i'n epileptig," nododd yr Herald Cymraeg [20 Ionawr 1990].[7]
Nodwyd hefyd yn y papur newydd bod "landlord tafarn y Victoria" wedi "gorfod gofyn i Clive Roberts adael y dafarn ar ddau achlysur am ei fod o'n rhy feddw", ond ychwanegodd nad oedd "erioed wedi ei weld o'n dreisgar".[7]
Gwadodd Roberts ei fod wedi ei tharo hefo cadair a chyllell. Dywedodd wrth y Llys "nad oedd ganddo fo fawr ddim cof am ddigwyddiadau Mawrth 5".[7]
Ym 1990, cafwyd Roberts yn euog o'i llofruddio. Yn ôl y BBC, "er bod eu perthynas yn stormus iawn, syfrdanwyd byd y theatr Gymraeg."[1] Treuliodd 12 mlynedd yn y carchar.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Bu'n briod efo'r actores Valmai Jones a sefydlodd y cwmni theatr Theatr Ddieithr gyda hi yn 1972. Ysgarodd y ddau yn ddiweddarach.[8]
Yn ei flynyddoedd hwyrach roedd yn byw yn Stryd Yr Afon, Trefor. Bu farw yn Ysbyty Gwynedd wedi gwaeledd byr yn 2020.[9] Cafodd angladd breifat a'i gladdu ym Mynwent Llanaelhaearn ar ddydd Mercher, 6 Ionawr 2021 am 1 o'r gloch.[2]
Cynyrchiadau
[golygu | golygu cod](detholiad)
Theatr
[golygu | golygu cod]- Pros Kairon (1968) Cwmni Theatr Cymru
Ffilm a Theledu
[golygu | golygu cod]- Fo a Fe
- Un, Dau, Tri (1972)
- How Green Was My Valley (cyfres deledu 1975)
- Henllys Fawr
- Pobol y Cwm
- Sonamdani
- Owain Glyndŵr (1983)
- Minafon (1984)
- Gwylnos (1989) ffilm olaf Clive gya Ffilmiau'r Tŷ Gwyn, na chafwyd ei dangos ar S4C.
Oriel
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 http://www.bbc.co.uk/cymru/radiocymru/safle/cofio/pages/1989_ffeithiau.shtml
- ↑ 2.0 2.1 "Hysbysiad marwolaeth CLIVE ROBERTS". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). 2021-01-02. Cyrchwyd 2025-09-28.
- ↑ "Caernarfon and Denbigh Herald (Arfon ed.) from Caernarfon, Gwynedd, Wales". Newspapers.com (yn Saesneg). 1990-01-26. Cyrchwyd 2025-09-28.
- ↑ https://books.google.co.uk/books?id=TlquBwAAQBAJ&pg=PR12&lpg=PR12&dq=%22clive+roberts%22+theatr&source=bl&ots=6QDeUKMZWe&sig=t3gXTYSjFx7gTOUIyNJDoBLuURo&hl=cy&sa=X&ved=2ahUKEwi8w-Ga3KPdAhXsBcAKHRscDWM4ChDoATADegQIAxAB#v=onepage&q&f=false
- ↑ https://books.google.co.uk/books?id=E2z2CQAAQBAJ&pg=PT122&lpg=PT122&dq=%22clive+roberts%22+theatr&source=bl&ots=PjsiKFA63M&sig=5OP6CRTFdpeDW7vkGQPYYkR3fmI&hl=cy&sa=X&ved=2ahUKEwi8w-Ga3KPdAhXsBcAKHRscDWM4ChDoATABegQIBxAB#v=onepage&q&f=false
- ↑ Elinor Wyn Roberts - Find A Grave
- ↑ 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 7.5 7.6 7.7 7.8 "Cyhuddo actor o lofruddio ei gariad". Herald Cymraeg. 20 Ionawr 1990.
- ↑ Povey, Meic (2010). Nesa Peth At Ddim. Carreg Gwalch.
- ↑ Yr actor Clive Roberts wedi marw yn 76 oed , BBC Cymru Fyw, 4 Rhagfyr 2021.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Clive Roberts ar wefan Internet Movie Database