Guto Roberts

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Actor Cymreig oedd Guto Roberts (1925 - 1999) a ymddangosodd mewn sawl cynhyrchiad llwyfan, ffilm a theledu yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ganed ef yn 'Isallt Fawr', Cwm Pennant.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Magwyd Roberts yn Eifionydd.

Efallai mai rhan mwyaf adnabyddus Guto Roberts oedd ei ran fel Ephraim Hughes y cyn-weinidog eisteddfodol, parchu yn y ddrama gomedi Fo a Fe.

Cymerodd ran mewn nifer o gynhyrchidau eraill yn yr 1970au ymlaen gan gynnwys, rhan arweinydd eisteddfod yn y ffilm Hedd Wyn, Mr Evans yng nghyfres deledu 'The Life and Times of David Lloyd George' (1981); y Parch Jenkins yng nghyfres deledu 'Border Country' (1979); Jenkyn Tyler yn 'Hawkmoor' (1978) a Protcor yng nghyfres ddrama 'Brett' (1971).

Yn ei flynyddoedd olaf bu’n gynrychiolydd i Gyhoeddiadau Mei a Gwasg Dwyfor.

Cariad at Fro[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyflwynodd ffilm cartref fer am Aberdaron sy'n adrodd hanes yr ardal a'i chymeriadau, yn 1967[1] Nodir ei fod yn byw yn Rhoslan, ger Cricieth arno. Gwnaeth hefyd ffilmio ffilm cartref fer arall 'Helpu Dad' (1970) gyda'r Meic Povey ifanc yn actio ynddo a sgript gan Wil Sam[2]

Gyhoeddwyd llyfr amdanno, 'Y Fo'[3] gan Wasg Carreg Gwalch a golygwyd gan Dr Meredydd Evans.

Gwaddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyflwynodd Guto Roberts dros gant o eitemau gwerthfawr ar ffilm a fideo o ddigwyddiadau yn Eifionydd, sy’n amrywio o angladd Thomas Parry-Williams i bregeth gan Ifor Bowen Griffith a lluniau unigryw Robert Hughes, Uwchlaw’r Ffynnon wrth odre Yr Eifl i'r i’r Archif Sgrin a Sain Genedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-aberdaron-1967-online
  2. https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-helpu-dad-1970-online
  3. https://carreg-gwalch.cymru/y-fo---guto-432-p.asp