Ty'd Yma Tomi!
Gwedd
| Cyfarwyddwr | Gareth Wynn Jones |
|---|---|
| Cynhyrchydd | Norman Williams |
| Ysgrifennwr | Siwan Jones |
| Dylunio | |
| Cwmni cynhyrchu | Bwrdd Ffilmiau Cymraeg |
| Amser rhedeg | tua 80 munud |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
Ffilm Gymraeg yw Ty'd Yma Tomi! sy'n adrodd hanes actores adnabyddus yn symud o Gaerdydd i gefn gwlad Cymru. Rhyddhawyd y ffilm ym 1984 gan y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg ac fe'i ddarlledwyd ar S4C ar 1 Mawrth 1985.
Seiliwyd y ffilm ar sgript Siwan Jones a enillodd y wobr am 'Sgript ddramatig orau' yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Môn 1983.
Cyfarwyddwr y ffilm oedd Gareth Wynn Jones a'r cynhyrchydd oedd Norman Williams. Roedd y cast yn cynnwys Gwen Ellis, Iola Gregory a John Ogwen.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Woodward, Kate. Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith?: Y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg.