Molière
| Molière | |
|---|---|
| Ffugenw | Molière |
| Ganwyd | Jean-Baptiste Poquelin 15 Ionawr 1622 Paris |
| Bedyddiwyd | 15 Ionawr 1622 |
| Bu farw | 17 Chwefror 1673 Paris |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Ffrainc |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | dramodydd, actor llwyfan, bardd, dychanwr, cyfarwyddwr theatr, dramodydd, ysgrifennwr, rheolwr theatr |
| Adnabyddus am | Scapin the Schemer, Le Bourgeois gentilhomme, Y Claf Diglefyd, Cariad Mr Bustl, Tartuffe, Don Juan, The School for Wives, The Imaginary Cuckold, Psyché, Pastorale comique, Mélicerte, Monsieur de Pourceaugnac, The Blunderer, or the Counterplots, The School for Husbands, L'Impromptu de Versailles, The Miser, L'Amour médecin, Les Précieuses ridicules, Les Fâcheux, Les Femmes Savantes, Les amants magnifiques, Le Sicilien ou l'Amour peintre, Le Médecin volant, Doctor ar ei Waethaf, Marriage by Compulsion, Lovers' quarrels, La Princesse d'Élide, La jalousie du barbouillé |
| Arddull | comedi, ffars |
| Prif ddylanwad | Plautus, commedia dell'arte |
| Mudiad | clasuriaeth |
| Tad | Jean Poquelin |
| Priod | Armande Béjart |
| Partner | Madeleine Béjart |
| Plant | Esprit-Madeleine Poquelin |
| llofnod | |
| Delwedd:Firma de Moliere.svg, Molière signature.svg | |

Dramodydd o Ffrainc oedd Jean-Baptiste Poquelin, neu Molière (15 Ionawr, 1622 - 17 Chwefror, 1673).
Cafodd ei eni ym Mharis. Bu'n teithio Ffrainc gyda'r actores Madeleine Béjart a'u cwmni, l'Illustre Théâtre am nifer o flynyddoedd. Ei ddrama olaf oedd Y Claf Diglefyd (Le Malade imaginaire), a berfformiwyd gyntaf yn gynnar yn 1673. Cymerwyd yr awdur yn wael yn ystod y pedwerydd perfformiad, ar 17 Chwefror, 1673, a bu farw yn fuan wedyn.
Cyfeirir at y Ffrangeg, ac yn benodol Ffrangeg coeth, weithiau fel la langue de Molière (iaith Molière), yn yr un ffordd ag y cyfeirir at y Gymraeg fel iaith Dafydd ap Gwilym, neu'r Eidaleg fel iaith Dante.
Prif weithiau
[golygu | golygu cod]- Le Médecin volant (1645)
- La Jalousie du barbouillé (1650)
- L'Étourdi ou les Contretemps (1655)
- Le Dépit amoureux (1656)
- Le Docteur amoureux (1658; collwyd)
- Les Précieuses ridicules (1659)
- Sganarelle ou le Cocu imaginaire (1660)
- Dom Garcie de Navarre ou le Prince jaloux (1661)
- L'École des maris (1661)
- Les Fâcheux (1661)
- L'École des femmes (1662)
- La Jalousie du Gros-René (1663) (= "La Jalousie du Barbouillé")
- La Critique de l'école des femmes (1663)
- L'Impromptu de Versailles (1663)
- Le Mariage forcé (1664)
- Gros-René, petit enfant (1664; collwyd)
- La Princesse d'Élide (1664)
- Tartuffe ou l'Imposteur (1664)
- Dom Juan ou le Festin de pierre (1665)
- L'Amour médecin (1665)
- Le Misanthrope ou l'Atrabilaire amoureux (1666; cyfieithiad Cymraeg gan Gareth Miles: Cariad Mr Bustl, 2007)
- Le Médecin malgré lui (1666; trosiad Cymraeg gan Saunders Lewis: Doctor ar ei Waethaf, 1924)
- Mélicerte (1666)
- Pastorale comique (1667)
- Le Sicilien ou l'Amour peintre (1667)
- Amphitryon (1668)
- George Dandin ou le Mari confondu (1668)
- L'Avare (1668)
- Monsieur de Pourceaugnac (1669)
- Les Amants magnifiques (1670)
- Le Bourgeois gentilhomme (1670)
- Psyché (1671)
- Les Fourberies de Scapin (1671)
- La Comtesse d'Escarbagnas (1671)
- Les Femmes savantes (1672)
- Le Malade imaginaire (1673; trosiad Cymraeg gan Bruce Griffiths: Y Claf Diglefyd, 1972)
Yn Gymraeg
[golygu | golygu cod]Mae fersiwn Gymraeg o ddrama olaf Molière, y Claf Diglefyd, gan Bruce Griffiths. Mae'r Opera Serch yw'r Doctor gan Arwel Hughes yn defnyddio addasiad gan Saunders Lewis o L'amour Médecin.