Annwyl D.J. - Llythyrau D.J., Saunders, a Kate
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Golygydd | Emyr Hywel |
Awdur | Emyr Hywel |
Cyhoeddwr | Y Lolfa |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 4 Mai 2007 |
Pwnc | Astudiaethau llenyddol |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9780862439651 |
Tudalennau | 384 |
Genre | Llenyddiaeth Gymraeg |
Detholiad o lythyrau rhwng D. J. Williams, Kate Roberts a Saunders Lewis wedi'u golygu gan Emyr Hywel yw Annwyl D.J.: Llythyrau D.J., Saunders, a Kate. Y Lolfa a gyhoeddodd y gyfrol a hynny ar 04 Mai 2007. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Detholiad o 209 o lythyrau rhwng D. J. Williams, Kate Roberts a Saunders Lewis - llythyrau sy'n codi'r llen ar fywyd llenyddol a gwleidyddol Cymru am ran helaeth o'r 20g ac sydd hefyd yn llawn ysgrifennu cain gan rai o lenorion pwysicaf y cyfnod yng Nghymru.
Mae Kate Roberts yn datgelu 'nad oes dim canolig yn digwydd yn fy mywyd i’; a D. J. Williams yn ceisio perswadio Saunders Lewis i roi’r gorau i ysgrifennu i’r Empire News; a Saunders Lewis,yn beirniadu Waldo Williams am beidio â thalu’r dreth incwm fel protest yn erbyn rhyfel, gan haeru ei fod yn 'rhoi’r argraff i’r di-Gymraeg mai pobl gysetlyd, od, yn chwilio am gyfle i fynd i’r carchar yw’r cenedlaetholwyr Cymreig'.
Ar D.J. y gweithiodd ac y gweithia Emyr Hywel yn bennaf (peth o ffrwyth ei waith ymchwil yn Aberystwyth yw’r gyfrol), ond gydag S.L., llosgwr Penyberth, y mae’n ochri’n wleidyddol, a’i fod yr un mor feirniadol o arweiniad Gwynfor Evans o’r Blaid Genedlaethol ag yr oedd S.L. ei hun. Cyhoeddir yma hefyd y llythyr hwnnw a anfonodd D.J. at S.L. Ddydd Calan 1963, yn canmol Gwynfor Evans ar achlysur diarddel Neil Jenkins o’r Pwyllgor Gwaith. Dywed y Golygydd hefyd mai ‘digon oeraidd’ oedd pethau rhwng G.E. a K.R. yn 1961: ie, y pryd hwnnw, pan oedd hi'n pledio dros weithredu llymach yn erbyn boddi Tryweryn; ond ar hyd y blynyddoedd wedyn yr oedd ganddi ffotograff o Gwynfor ar ei silff-ben-tân.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013