John Jenkins, Llanidloes

Oddi ar Wicipedia
John Jenkins, Llanidloes
Ganwyd21 Tachwedd 1821 Edit this on Wikidata
Llanidloes Edit this on Wikidata
Bu farw22 Chwefror 1896 Edit this on Wikidata
Llanidloes Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Amwythig Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfieithydd, cyfreithiwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Roedd John Jenkins (27 Tachwedd, 182122 Chwefror, 1896) yn gyfreithiwr a gŵr cyhoeddus, yn awdur a chyfieithydd llenyddiaeth Cymraeg i'r Saesneg.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Jenkins yn Llanidloes yn fab i Edward Jenkins perchennog ffatri gwlanen a Mary (née Mason) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn yr Amwythig a gan diwtoriaid preifat.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn 16 mlwydd oed aeth Jenkins i gwmni gyfreithwyr John Owen yn y Drenewydd fel clerc erthyglau am 4 blynedd gan gymhwyso fel cyfreithiwr yn Llundain ym 1842. Sefydlodd cwmni cyfreithiol yn Llanidloes. Ym 1846 fe'i penodwyd yn gofrestrydd llys sirol Aberystwyth. Ar ôl pasio Deddf Methdaliad 1869 fe'i penodwyd trwy ddirprwyaeth i arfer y pwerau barnwrol a gweinyddol mewn methdaliad dros rannau o Sir Aberteifi, Sir Drefaldwyn a Sir Feirionnydd. Ym 1884 fe'i penodwyd yn gofrestrydd ardal yr Uchel Lys Cyfiawnder.[3]

Gwasanaethodd fel clerc i gyngor tref Llanidloes [4] ac fel clerc i lys ynadon Llanidloes.

Bu'n Jenkins yn weithgar wrth sefydlu ysgolion elfennol mewn cysylltiad â Chymdeithas Ysgolion Prydeinig a Thramor. Roedd yn aelod o Bwyllgor Addysg Ganolradd Cymru. Roedd yn Llywodraethwr ac yn aelod o Gyngor Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth.

Wedi sefydlu'r cynghorau sir ym 1888 etholwyd Jenkins yn aelod Rhyddfrydol o Gyngor Sir Drefaldwyn a'i ddewis yn un o henaduriaid y sir wedi'r etholiad. Gwasanaethodd fel is Gadeirydd y cyngor o 1888 i 1894.[5]

Roedd Jenkins yn Gadeirydd y Comisiynwyr Trethi,[6] ac yn Llywydd Cynorthwyol cangen Llanidloes o Gymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor. Bu hefyd yn Gyfarwyddwr ar Gwmni Nwy Llanidloes, ac yn Gadeirydd ei fwrdd am nifer o flynyddoedd.

Gyrfa lenyddol[golygu | golygu cod]

Ers cychwyn ei yrfa fel cyfreithiwr credai Jenkins fod angen diwygio'r weithdrefn gyfreithiol, a chyfrannodd at y cylchgrawn "Eclectic Review" papurau ar Ddiwygio'r Gyfraith a Llysoedd Lleol. Yn 1845 cyhoeddodd bamffled o'r enw Law Reform.

Trwy ei waith gyda'r Gymdeithas Ysgolion Prydeinig a Thramor daeth Jenkins i'r farn nad oedd modd darparu addysg elfennol i bob plentyn ar sail waith gwirfoddol yn unig. Ym 1848 cyhoeddodd llyfr o'r enw National Education yn dadlau bod angen i'r llywodraeth darparu addysg statudol orfodol. Gwireddwyd ei ddymuniad gyda phasio'r Ddeddf Addysg Elfennol (1870).[7]

Cyhoeddodd lyfrynnau yn ymwneud a'r gyfraith parthed addysg ac addoliad. The Laws Relating to Religious Liberty (1880),[8] The Laws Concerning Religious Worship (1885) a Mortmain and Charity Uses (1885).`

Golygodd ail argraffiad ac ysgrifennodd traethawd i gyflwyno'r system ffiwdal ar gyfer llyfr Ieuan Brydydd Hir Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards, Translated into English, with Notes (1862).[9] Cyhoeddodd ei lyfr o gyfieithiadau o farddoniaeth Gymraeg ei hun ym 1873 The Poetry of Wales

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ddibriod yn 74 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion mewn claddgell yn Seion, capel yr Annibynwyr, Llanidloes.[10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Evans, E., (1953). JENKINS, JOHN (1821 - 1896) golygydd a chyfieithydd, Llanidloes;. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 16 Chwefror 2020
  2. Bye-gones relating to Wales and the border counties; Cyfrol Mawrth 1896 - The Late John Jenkins Esq of Llanidloes Adferwyd 16 Chwefror 2020
  3. "Death of Mr John Jenkins Llanidloes - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1896-02-28. Cyrchwyd 2020-02-16.
  4. "LLANIDLOES - The Brecon County Times Neath Gazette and General Advertiser for the Counties of Brecon Carmarthen Radnor Monmouth Glamorgan Cardigan Montgomery Hereford". William Henry Clark. 1866-11-10. Cyrchwyd 2020-02-16.
  5. "LLANIDLOES - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1896-03-04. Cyrchwyd 2020-02-16.
  6. "LLANIDLOES COUNTY SESSIONS - The Montgomeryshire Express and Radnor Times". William Pugh Phillips & Gilbert Norton Phillips. 1896-03-03. Cyrchwyd 2020-02-16.
  7. "ELEMENTARY EDUCATION A TLLANIDLOES - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1882-12-23. Cyrchwyd 2020-02-16.
  8. "LAWS RELATING TO RELIGIOUS LIBERTY AND PUBLIC WORSHIP, by John Jenkins, Esq., Registrar of County Courts, and delegated Judge in Bankruptcy, Llanidloes. London Hodder and Stoughton. - Y Gwyliedydd". Amos Brothers. 1881-03-02. Cyrchwyd 2020-02-16.
  9. "Advertising - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1869-10-29. Cyrchwyd 2020-02-16.
  10. "LLANIDLOES - The Montgomeryshire Express and Radnor Times". William Pugh Phillips & Gilbert Norton Phillips. 1896-03-03. Cyrchwyd 2020-02-16.