John Mills (Ieuan Glan Alarch)

Oddi ar Wicipedia
John Mills
Ganwyd19 Rhagfyr 1812 Edit this on Wikidata
Llanidloes Edit this on Wikidata
Bu farw28 Gorffennaf 1873 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethawdur, cenhadwr, gweithiwr ffatri Edit this on Wikidata

Cerddor ac awdur Cymreig oedd John Mills (19 Rhagfyr 181228 Gorffennaf 1873), a adnabyddir gan amlaf wrth ei enw barddol Ieuan Glan Alarch.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Roedd yn frodor o Lanidloes, ym Maldwyn, Powys. Ar ôl treulio ei ieuenctid yn ei fro enedigol daeth yn weinidog a bu'n gwasanaethu yn Rhuddlan, Sir Ddinbych ac, yn ddiweddarach, yn Llundain, Lloegr.

Tra yn Llundain ymgymerodd â gwaith cenhadol ymysg yr Iddewon yno. Sbardunodd hynny ddiddordeb mewn hanes yr Iddewon yng ngwledydd Prydain a'r ffrwyth oedd cyfrolau megis Iddewon Prydain (1852) a British Jews (1853).

Yng Nghymru fe'i cofir yn bennaf fel awdur ar bynciau cerddorol a gyhoeddodd sawl cyfrol megis Gramadeg Cerddoriaeth (1838) ac Elfennau Cerddorol (1848), wedi'u hanelu at ddarllenwyr ymysg y werin bobl. Ef a sefydlodd y cylchgrawn diwylliannol Y Beirniadur Cymreig hefyd, yn 1845; cyfrannodd sawl erthygl iddo.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Gramadeg Cerddoriaeth (1838)
  • Y Cerddor Eglwysig (1846)
  • Y Salmydd Eglwysig (1847)
  • Elfennau Cerddorol (1848)
  • Iddewon Prydain (1852)
  • British Jews (1853)
  • Y Cerddor Dirwestol (1855)

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]