Cynog Ferthyr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cynog Ferthyr
Eglwys Sant Cynog Church of St Cynog Llangynog Powys 08.JPG
Ganwyd 5 canrif Edit this on Wikidata
Teyrnas Brycheiniog Edit this on Wikidata
Bu farw 492 Edit this on Wikidata (91 oed)
Cenedl Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth sant Edit this on Wikidata
Blodeuodd 5 canrif Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl 7 Hydref Edit this on Wikidata
Tad Brychan Edit this on Wikidata
Plant Rhain Dremrudd Edit this on Wikidata
Teulu Endelyn ach Brynach, Gwen o Gernyw, Adwen, Tudful ach Brychan, Dwynwen ach Brychan, Gwladys ach Brychan, Mwynen ach Brynach, Mabyn ach Brynach, Cain ach Brychan, Menefrida, Eiluned ach Brychan, Neithon Sant, Dingad o Landingad, Dyfnan Edit this on Wikidata
Erthygl am y sant cynnar yw hon. Gweler hefyd Cynog (gwahaniaethu) a Cynog (esgob).

Sant o Gymru oedd Cynog Ferthyr, Cynog ap Brychan neu'r Abad Cynog (bu farw 492). Dethlir ei ddydd gŵyl ar 7 neu 8 Hydref.

Yn ôl De Situ Brecheniauc Cynog oedd mab hynaf Brychan, brenin Brycheiniog. Yn ôl y Cognatio Brychan fe'i bedyddiwyd gan Sant Gastayn a oedd ag eglwys yn Mara, ger Llangasty Tal-y-llyn.

Dywedir i dad Brychan, Anlach, ei roi fel gwystl i Banadl, brenin Powys, pan oedd yn ifanc, ond cafodd Brychan berthynas gyda merch Banadl, sef Banhadlwedd a chafodd fab - Cynog.[1] Rhoddodd Brychan un o sawl torch o'i fraich yn anrheg i Cynon a chadwyd hi fel crair am ganrifoedd. Claddwyd ef ym Merthyr Cynog. Disgrifiodd Gerallt Gymro'r dorch fel 'breichled o liw, pwysau a theimlad ag aur; mae mewn pedair rhan wedi'u cysylltu gyda'i gilydd gan ben ci a'i ddannedd am allan' (Itin.Kamb., I.2). Cuddiodd Rhys ap Gruffudd, neu'r 'Arglwydd Rhys' y dorch er mwyn ei gadw'n ofalus yn Ninefwr (Itin. Kamb., II.2).

Cafodd ei ladd naill ai gan y Sacsoniaid neu gan fôrladron o Iwerddon ym Merthyr Gynog, Brycheiniog, yn y flwyddyn 492.

Eglwysi[golygu | golygu cod y dudalen]

Dywedir fod Cynog wedi sefydlu eglwysi yn Llangynog ym Mhowys, Defynnog, Ystrad Gynlais, Penderyn a Merthyr Cynog. Fe'i cysylltir hefyd â Llangynog (Sir Fynwy) (Llangunnock yn Saesneg; i'r de o Llanfihangel Tor-y-mynydd) a Llangunnock (Llangynog) yn Sir Henffordd[2].

Nodir ei enw yn y rhestr Gernyweg o blant Brychan, a cheir 'Boconnoc' ('Bod-conoke' yn 1382) (II.269) dair milltir i'r gogledd-ddwyrain o Lostwydhyel (Saesneg: Lostwithiel). Ceisiodd rhai ei gysylltu gyda Mochonóc, yn y rhestr Wyddelig, ond mae hyn yn anhebygol.

Rhestr Wicidata:


# Eglwys neu Gymuned Delwedd Cyfesurynnau Lleoliad Wicidata
1 Boconnoc
Brooks - geograph.org.uk - 1006496.jpg
50°24′58″N 4°36′40″W / 50.416°N 4.611°W / 50.416; -4.611 Cernyw Q1969237
2 Defynnog
St. cynog's church, Defynnog - geograph.org.uk - 1744462.jpg
51°56′22″N 3°33′53″W / 51.9395°N 3.56468°W / 51.9395; -3.56468 Powys Q5251744
3 Eglwys Sant Cynog 51°56′22″N 3°33′53″W / 51.9395°N 3.56468°W / 51.9395; -3.56468 Powys Q17743393
4 Eglwys Sant Cynog 51°58′06″N 3°26′42″W / 51.968362°N 3.4449923°W / 51.968362; -3.4449923 Powys Q29485864
5 Eglwys Sant Cynog
Church of St Cynog, Boughrood - geograph.org.uk - 706804.jpg
52°02′42″N 3°16′23″W / 52.045118°N 3.2730695°W / 52.045118; -3.2730695 Y Clas-ar-Wy Q29494786
6 Eglwys Sant Cynog
Back of Grade II listed St Cynog's Church, Penderyn - geograph.org.uk - 3060194.jpg
51°45′56″N 3°31′50″W / 51.765653°N 3.5304875°W / 51.765653; -3.5304875 Hirwaun Q29495593
7 Eglwys Sant Cynog 51°48′30″N 4°24′41″W / 51.8082°N 4.41143°W / 51.8082; -4.41143 Powys Q17743050
8 Eglwys Sant Cynog
Eglwys Sant Cynog Church of St Cynog Llangynog Powys 08.JPG
52°49′27″N 3°24′24″W / 52.824118°N 3.4067829°W / 52.824118; -3.4067829 Powys Q29504306
9 Eglwys Sant Cynog
Church of St Cynog, Merthyr Cynog - geograph.org.uk - 713229.jpg
52°01′34″N 3°28′52″W / 52.0261°N 3.481°W / 52.0261; -3.481 Powys Q17741862
10 Eglwys Sant Gwynog
A simple church - geograph.org.uk - 795764.jpg
52°32′01″N 3°26′34″W / 52.5335°N 3.44284°W / 52.5335; -3.44284 Caersŵs Q17744091
11 Llangynog, Powys
Eglwys Sant Cynog Church of St Cynog Llangynog Powys 03.JPG
52°49′30″N 3°24′22″W / 52.825°N 3.406°W / 52.825; -3.406 Powys Q13129653
12 Merthyr Cynog
Church of St Cynog, Merthyr Cynog - geograph.org.uk - 713229.jpg
52°01′00″N 3°29′00″W / 52.0167°N 3.48333°W / 52.0167; -3.48333 Powys Q3404562
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Teithio[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n debyg y bu ganddo gell meudwy. Ceir traddodiad iddo deithio i Gernyw gyda Sant Cadog.

Cyfeiria Gerallt Gymro at freichled a roddwyd i Gynog gan Frychan ac a addolwyd fel crair ar ddiwedd y 12g.

Iolo Morgannwg[golygu | golygu cod y dudalen]

Priodolodd Iolo Morgannwg nifer o wirebau (dywediadau doeth) i Gynog a gyhoeddwyd yn y Myvyrian Archaiology of Wales, ond gwyddys erbyn hyn eu bod yn ffrwyth dychymyg Iolo ei hun.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2000)
  1. Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000; adalwyd 8 Hydref 2017.
  2. .visionofbritain.org.uk; adalwyd 8 Hydref 2017