Afon Tanad

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Dyffryn Tanad)
Afon Tanad
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr74 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.7833°N 3.1167°W Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Rhaeadr Edit this on Wikidata
Map

Afon yng nghanolbarth Cymru yw Afon Tanad, weithiau Afon Tanat.

Mae'n tarddu ar lechweddau'r bryniau uwchben rhan uchaf Cwm Pennant ym Mhowys, ar lethrau dwyreiniol Cyrniau Nod, ac yn llifo heibio Pennant Melangell. Llifa tua'r dwyrain, a ger Llangynog mae Afon Eirth yn ymuno â hi. Mae'n llifo tua'r de-ddwyrain cyn belled â phentref Pen-y-bont-fawr, cyn troi tua'r dwyrain eto ar hyd Dyffryn Tanat, heibio Pedair-ffordd. I'r de o bentref Llanrhaeadr-ym-Mochnant mae Afon Rhaeadr yn ymuno â hi, yna yn fuan wedyn Afon Iwrch.

Aiff heibio Llangedwyn, yna mae'n llifo i mewn i Loegr am ychydig heibio Llanyblodwel, lle mae'n troi tua'r de ac yn dychwelyd y Gymru i ymuno ag Afon Efyrnwy.

Afon Tanad yn Llangedwyn
Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.