Llanyblodwel
| Math | pentref, plwyf sifil |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Swydd Amwythig |
| Poblogaeth | 755, 817, 767 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 52.7979°N 3.1264°W |
| Cod SYG | E04011303 |
| Cod OS | SJ240229 |
![]() | |
Pentref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Llanyblodwel.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Amwythig.
Fe'i lleolir tua milltir yn unig o'r ffin rhwng Swydd Amwythig a Powys, 6 milltir i'r de-ddwyrain o Groesoswallt. Mae ei leoliad a'i enw Cymraeg yn dangos y bu ar un adeg yn rhan o Bowys. Arosodd yn rhan o Gymru tan gyfnod y "Deddfau Uno" pan roddwyd Arglwyddiaeth Croesoswallt i Swydd Amwythig.
Llifa Afon Tanad o gyfeiriad Llangedwyn ym Mhowys i mewn i Loegr a heibio Llanyblodwel, lle mae'n troi tua'r de ac yn dychwelyd y Gymru i ymuno ag Afon Efyrnwy.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan blwyf sifil Llanyblodwel boblogaeth o 767.[2] Yn ogystal â phentref Llanyblodwel ei hun, mae'r plwyf yn cynnwys pentref Porth-y-waen.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 11 Ebrill 2021
- ↑ City Population; adalwyd 11 Ebrill 2021
