Gŵyl Machynlleth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Y Tabernacl

Mae Gŵyl Machynlleth (Machynlleth Festival) yn ŵyl flynyddol sy'n cael ei chynnal yn Awditoriwm Y Tabernacl, Machynlleth, ddiwedd mis Awst.[1][2] Yn ystod yr wythnos mae perfformwyr amlwg yn cymryd rhan mewn digwyddiadau sy'n amrywio o ddatganiadau i blant i jazz.

Ni ddylid drysu â Gŵyl Gomedi Machynlleth sy'n cael ei chynnal ym mis Mai ac sy'n ŵyl iau ac yn annibynnol o Ŵyl Machynlleth. Saesneg yw prif gyfrwng digwyddiadau'r Ŵyl.

Y Digwyddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r ŵyl yn cychwyn gyda Chymanfa Ganu.[3] Ymhlith y nodweddion arbennig mae Darlith Hallstatt ar ryw agwedd ar ddiwylliant Celtaidd.

Gwobr Glyndŵr[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwobr Glyndŵr 2014

Rhoddir Gwobr Glyndŵr am Gyfraniad Eithriadol i'r Celfyddydau yng Nghymru yn ystod yr ŵyl.[1] Ymysg cyn-enllwyr Gwobr Glyndŵr mae; Kyffin Williams (1995), Jan Morris (1996), Gerallt Lloyd Owen (2002), Mererid Hopwood (2011), Karl Jenkins (2018).

Perfformwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymhlith y perfformwyr yn nhri Gŵyl Machynlleth gyntaf roedd y tenor Paul Agnew, y bas-bariton Bryn Terfel (1989) a'r tenor Rhys Meirion (2020). Ymhlith perfformwyr yr Ŵyl yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf roedd: Alan Skidmore, sacsoffonydd tenor, 1990; Bernard Roberts, pianydd, a Kit a The Widow, 1991; a Robin Williamson o'r Incredible String Band, 1992.

Ceir amrywiaeth eang o berfformiadau clasurol gan offerynwyr a chantorion tramor a Chymreig gan gynnwys Elin Manahan Thomas yn 2019. Ceir hefyd ganu corawl, bandiau Klezmer, sioeau hanes a drama.[4]

Roedd y canwr Jazz George Melly a'r trombonydd Christian Lindberg ymhlith uchafbwyntiau 1996.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]