David Lloyd (barnwr Pennsylvania)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
David Lloyd
Lloyddavid.jpg
Ganwyd 1656 (in Julian calendarEdit this on Wikidata
Sir Drefaldwyn Edit this on Wikidata
Bu farw 6 Ebrill 1731 (in Julian calendar), 6 Chwefror 1731 Edit this on Wikidata (74 oed)
Chester Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth cyfreithiwr, barnwr, gwleidydd Edit this on Wikidata

Roedd David Lloyd (16566 Ebrill 1731) yn gyfreithiwr a gwleidydd Cymreig ym Mhennsylvania. Gwasanaethodd fel Twrnai Cyffredinol cyntaf Talaith Pennsylvania. Gwasanaethodd yng Nghynulliad Cyffredinol Pennsylvania fel aelod o'r Blaid Boblogaidd gan gynnwys chwe thymor fel ei Llefarydd, ac fel Prif Ustus yr Uchel Lys Pennsylvania.[1]

Bywyd cynnar a theulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Lloyd ym 1656 ym mhlwyf Manafon, Sir Drefaldwyn yn fab i Thomas Lloyd, bonheddwr [2] Addysgwyd ef mewn ysgol ramadeg lleol

Cafodd Lloyd dröedigaeth i ffydd y Crynwyr ym 1691.

Priododd Lloyd ddwywaith. Enw ei wraig gyntaf oedd Sarah, ond ychydig sy'n wybyddus amdani hi .[1] Priododd ei ail wraig, Grace Growden ym 1703. Bu iddynt fab a fu farw yn ifanc yn 1731 trwy ddamwain.

Mae'n debyg bod David Lloyd yn gefnder i Thomas Lloyd, is lywodraethwr Talaith Pennsylvania. [3]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Astudiodd Lloyd y gyfraith o dan George Jeffreys. Ym 1686 anfonwyd ef gan William Penn i Dalaith Pennsylvania a gwasanaethodd fel Twrnai Cyffredinol y dalaith o 1686 hyd 1710. Dyluniodd Lloyd system gyfreithiol gyntaf Pennsylvania. [4]

Daeth, yn olynol, yn glerc y llys sirol yn Philadelphia, yn ddirprwy i feistr y rholiau, ac yn glerc llys y dalaith. [5]

Ym 1689, roedd Lloyd yn glerc y Llysoedd Sirol ac aeth i drafferthion gyda'r cyngor pan wrthododd trosglwyddo cofnodion y llys i'r cyngor.

Yn 1698, yn ôl pob tebyg fel cosb am y gwrthdaro gyda'r cyngor, cafodd ei ddiswyddo fel Twrnai Cyffredinol a'i ddisodli gan John Moore. [6]

Achosodd Fframwaith Penn (Siarter Breintiau Taleithiol), 1701 anghytundeb rhwng Lloyd a Penn. Roedd yr anghytundeb ynglŷn â dehongli os oedd y Siarter yn rhoi rheolaeth y dalaith i'r Cynulliad Taleithiol neu i'r Llywodraethwr. Roedd James Logan, ysgrifennydd ffyddlon Penn, yn credu bod y Llywodraethwr yn ganolbwynt grym ac yn ysgogi'r rhai a oedd yn cytuno ag ef i'r Blaid Berchnogol. Credai Lloyd fod y Cynulliad yn ganolbwynt i rym taleithiol, a daeth yn arweinydd y Blaid Boblogaidd a brwydrodd am ddeng mlynedd ar hugain i sicrhau goruchafiaeth ei safbwynt. [7] Bu'n aelod o Gynulliad Cyffredinol Pennsylvania am 23 mlynedd rhwng 1693 a 1728, yn cynrychioli etholaethau Chester County, Philadelphia County, a Dinas Philadelphia. Am dair ar ddeg o'r blynyddoedd hynny, gwasanaethodd fel Llefarydd y Cynulliad. Bu hefyd yn aelod o'r cyngor taleithiol am bum mlynedd. Ym 1702, penodwyd ef yn eiriolwr i Lys y Morlys.

Yn 1718, penodwyd Lloyd yn Brif Ustus y dalaith gan y Llywodraethwr William Keith. Yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd, gostyngodd ei allu meddyliol ac ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth dywedodd y cyngor ei fod yn anaddas ei iechyd meddyliol i wasanaethu. Daeth ei farwolaeth cyn iddo gael ei ddiswyddo.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw Lloyd ar 6 Ebrill, 1731 yn Chester, Pennsylvania a chafodd ei gladdu ym Mynwent y Crynwyr, Chester. Ym 1959 cafodd gweddillion Lloyd a'i wraig eu symud i hen eglwys St. Paul, Chester wedi i Fynwent y Crynwyr cael ei glustnodi ar gyfer ei ddatblygu [8]

Mae Lloyd Street Chester, Pennsylvania wedi ei enwi er anrhydedd i Lloyd.

Cafodd Cyd-goriad Egwyddorawl o'r Scrythurau Abel Morgan, y mynegai cyntaf o'r Beibl yng Nghymraeg ei gyflwyno i Lloyd. [9]

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Geiter, M. (23 Medi 2004). "Lloyd, David (1656–1749), lawyer and politician in America". Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd 12 Gorffennaf 2019
  2. Webb, J. (Chwefror 2000). "Lloyd, David (?1656–06 April 1749), leading Quaker legislator and jurist of early Pennsylvania". American National Biography. Adalwyd 12 Gorffennaf 2019
  3. "WELSH EMIGRANTS - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 9 Rhagfyr 1893. Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2019.
  4. History of Delaware County, Pennsylvania, Ashmead, Henry Graham & Hungerford, Austin N; Philadelphia, L. H. Everts & co., 1884 adalwyd 12 Gorffennaf 2019
  5. "THE WELSH IN THE UNITED STATES - The Pembrokeshire Herald and General Advertiser". Joseph Potter. 13 Chwefror 1891. Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2019.
  6. The Twentieth Century Bench and Bar of Pennsylvania, Volume 2. Chicago: H.C. Cooper, Jr., Bro. & Co. 1903. t. 1056. Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2019.
  7. Klein, Philip S. (1973). History of Pennsylvania. University Park and London: The Pennsylvania State University Press. t. 50. ISBN 0-271-01934-4. Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2019.
  8. Find a grave - David Lloyd adalwyd 12 Gorffennaf 2019
  9. "ER COF AM WILLIAM PENN - Y Drych". Mather Jones. 9 Tachwedd 1893. Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2019.