Nant Brân
Gwedd
Nant Brân ger ei tharddle | |
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.9536°N 3.4758°W |
Afon yn ne Powys yw Nant Brân. Gorwedda i'r gogledd-orllewin o Aberhonddu, Brycheiniog. Ei hyd yw tua 9 milltir.
Mae'r afon yn tarddu ym Mynydd Epynt ger Twyn Rhyd-car (454 m). Llifa ar gwrs deheuol i lawr trwy gwm coediog, gan lifo heibio i bentrefi bychain Blaendyryn a Llanfihangel Nant Brân, i aberu yn Afon Wysg ger pentref Aberbrân, ychydig o filltiroedd i'r gorllewin o Aberhonddu.