Bernard de Neufmarché

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Bernard de Neufmarche)
Bernard de Neufmarché
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata

Arglwydd Normanaidd oedd yn un o'r cyntaf i goncro tiriogaethau yng Nghymru oedd Bernard de Neufmarché (c. 1050 - c. 1125). Roedd Bernard yn un o'r mân arglwyddi Normanaidd a lwyddodd i enill safle gref ar y Gororau cyn cipio Teyrnas Brycheiniog rhwng 1088 a 1095, a chreu Arglwyddiaeth Brycheiniog.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed ef yng nghastell Le-Neuf-Marché-en-Lions, ar y ffîn rhwng Normandi a Beauvais. Roedd yn perthyn o bell i Gwilym Goncwerwr. Rhoddwyd tiroedd yn Swydd Henffordd iddo gan y brenin yn 1086 neu 1087. Priododd Agnes (Nest), merch Osbern fitz Richard a Nest, merch Gruffudd ap Llywelyn.

Ymosododd ar deyrnas Brycheiniog tua 1088, Cipiwyd Talgarth, ac adeiladodd gastell Bronllys. Erbyn 1091, roedd wedi cyrraedd dyffryn afon Wysg. Yn ôl un cofnod diweddarach, gwnaeth brenin Brycheiniog, Bleddyn ap Maenarch, gynghrair a Rhys ap Tewdwr, brenin Deheubarth yn 1093 neu 1094, ac ymosododd ar Bernard, oedd yn adeiladu castell yn Aberhonddu. Lladdwyd Rhys yn y frwydr, a chipiodd Bernard y gweddill o Frycheiniog.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]