Fan Gyhirych

Oddi ar Wicipedia
Fan Gyhirych
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr725 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.859°N 3.627°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN8805719124 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd280 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaPen y Fan Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddBannau Brycheiniog Edit this on Wikidata
Map

Copa yn y Fforest Fawr, sy'n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yw Fan Gyhirych. Saif yn sir Powys; cyfeiriad grid SN880191. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 445 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Mae'r nentydd ar lethrau gogleddol y mynydd yn llifo i Afon Crai, a'r nentydd ar ei lethrau deheuol a gorllewinol yn llifo i afon Tawe. Gerllaw mae copa is Fan Fraith. Yn nechrau'r 19g, adeiladodd John Christie dramffordd, Tramffordd y Fforest Fawr, ar hyd rhan isaf y llechweddau gorllewinol. Yn ddiweddarach, daeth rhan o'r trac yn rhan o Reilffordd Castell-nedd ac Aberhonddu.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 725 metr (2379 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.

Carnedd gron[golygu | golygu cod]

Saif Carnedd gron Fan Gyhirych ar y llethrau sy'n dyddio'n ôl i ddiwedd Oes y Cerrig a chychwyn Oes yr Efydd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]