Bannau Brycheiniog
Gwedd
| Math | cadwyn o fynyddoedd |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog |
| Sir | Powys |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 5,010.64 ha |
| Uwch y môr | 842 metr |
| Cyfesurynnau | 51.8833°N 3.4333°W |
| Cadwyn fynydd | Mynyddoedd Cambria |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
| Manylion | |
Mae hon yn erthygl am y gadwyn mynyddoedd. Am y parc cenedlaethol, gweler Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Cadwyn o fynyddoedd yn ne Powys (Brycheiniog gynt) yw Bannau Brycheiniog. Maent yn gorwedd yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a enwir ar eu hôl. Y Bannau yw'r mynyddoedd uchaf yng Nghymru i'r de o Gader Idris. Pen y Fan (886 m) yw'r copa uchaf.
Gorwedd Bannau Brycheiniog yn hanner gogleddol y triongl o dir uchel a geir rhwng Y Fenni a Merthyr Tudful yn y de ac Aberhonddu i'r gogledd.
Copaon
[golygu | golygu cod]

