Fan Fawr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cyfesurynnau: 51°52′N 3°30′W / 51.86°N 3.5°W / 51.86; -3.5
Fan Fawr

(Bannau Brycheiniog)
Fan Fawr, o Fan Llia
Cyfieithiad
Iaith Cymraeg
Testun y llun Fan Fawr, o Fan Llia
Uchder (m) 734
Uchder (tr) 2408
Amlygrwydd (m) 874
Lleoliad i'r de-orllewin o Aberhonddu, Powys
Map topograffig Landranger 160;
Explorer 12E
Cyfesurynnau OS SN969193
Gwlad Cymru
Dosbarthiad Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall
Fan Fawr is located in Cymru
Fan Fawr (Cymru)

Fan Fawr yw'r copa uchaf yn y Fforest Fawr, sy'n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog . Saif ychydig i'r gorllewin o'r briffordd A470, i'r de-orllewin o Aberhonddu, Powys; cyfeiriad grid SN969193. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 439metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Mae'r nentydd ar lethrau gorllewinol y mynydd yn ffurfio afon Dringarth, a chrewyd Cronfa Ystradfellte trwy adeiladu argae ar yr afon yma. Ar yr ochr ddwyreiniol, mae'r nentydd yn ffurfio afon Taf Fawr; ceir argae yma hefyd, sy'n ffurfio Cronfa'r Bannau. Ar y ochr ogledd-ddwyreniol, mae afon Tarell yn tarddu, ac yn llifi i afon Wysg. Yn y de, mae Afon y Waun yn llifo i mewn i afon Hepste.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 734 metr (2408 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.