Cronfa'r Bannau

Oddi ar Wicipedia
Cronfa'r Bannau
Mathcronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8564°N 3.4719°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganDŵr Cymru Edit this on Wikidata
Map

Cronfa ddŵr yn ardal y Fforest Fawr o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw Cronfa'r Bannau (Saesneg: Beacons Reservoir). Saif ym Mhowys, gerllaw'r briffordd A470, fymryn i'r gogledd o'i chyffordd a'r A4056 ac ychydig i'r dwyrain o gopa Fan Fawr.

Crëwyd y gronfa trwy adeiladu argae ar afon Taf Fawr. Cronfa'r Bannau yw'r mwyaf gogleddol o'r tair cronfa yn nyffryn afon Taf: yn is i lawr ceir Cronfa Cantref a Chronfa Llwyn-onn. Mae'n eiddo i Dŵr Cymru.

Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.