Afon Hepste
Gwedd
Sgwd yr Eira ar Afon Hepste | |
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Powys, Rhondda Cynon Taf |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 705 metr |
| Cyfesurynnau | 51.7772°N 3.5606°W |
| Aber | Afon Mellte |
![]() | |
Afon ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ne Powys yw Afon Hepste.
Mae'n tarddu yn y Fforest Fawr, yn yr ardal rhwng Ystradfellte a'r briffordd A4059. lle mae nentydd Afon y Waun, Nant y Cwrier a Nant Hepste Fechan yn ymuno i ffurfio afon Hepste ger ffermdy Hepste Fechan. Llifa tua'r de-orllewin, dros ardal o galchfaen Garbonifferaidd; mae rhan helaeth o'i dŵr yn llifo dan y ddaear mewn mannau, ac ar dywydd sych gall y cyfan fod dan y ddaear yn y rhannau hyn. Yn is i lawr, mae'r afon yn ffurfio rhaeadr enwog Sgwd yr Eira, yna'n ymuno ag afon Mellte ger pentref Ystradfellte.
