T. Marchant Williams
T. Marchant Williams | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | The Acid Drop ![]() |
Ganwyd | 1845 ![]() Aberdâr ![]() |
Bu farw | 27 Hydref 1914 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd, cyfreithiwr, newyddiadurwr, bargyfreithiwr ![]() |
Golygydd ac awdur oedd Thomas Marchant Williams (1845 – 27 Hydref 1914), a oedd yn adnabyddus wrth yr enw T. Marchant Williams. Roedd yn Rhyddfrydwr a chwaraeodd ran amlwg ym mywyd diwylliannol a gwleidyddol Cymru yn chwarter olaf y 19g a dechrau'r 20fed. Oherwydd ei ffraethineb ddeifiol a amlygid yn ei feirniadaeth o'r bywyd gwleidyddol, enillodd y llysenw The Acid Drop.
Bywgraffiad[golygu | golygu cod]
Brodor o Aberdâr ym Morgannwg oedd T. Marchant Williams. Hyfforddodd i fynd yn athro ysgol yng Ngholeg y Normal, Bangor. Yn ddiweddarach bu ymhlith y myfyrwyr cyntaf i fynychu Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Cafodd yrfa wrth y Bar yn nes ymlaen. Yn 1904 fe'i urddwyd yn farchog.
Fel canlyniad i ddarlith gan Hugh Owen yng Nghaernarfon yn 1880, penderfynwyd sefydlu corff newydd - Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol - i lywio'r Eisteddfod a gofynnwyd i T. Marchant Williams fod yn ysgrifennydd cyffredinol. Roedd yn aelod diwyd o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion hefyd.
Bu'n olygydd y cylchgrawn cenedlaetholgar dylanwadol The Nationalist, a rhoddai hynny llwyfan iddo fynegi ei farn olygyddol ar bynciau mawr y dydd yng Nghymru a'r tu hwnt. Cyhoeddodd sawl ysgrif a llyfr dychanol ar wleidyddiaeth Cymru, yn Saesneg, a chyhoeddod gyfrol o gerddi Cymraeg hefyd.
Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]
- The Land of My Fathers (1889). Nofel ddychanol.
- The Welsh Members of Parliament (1894). Cyfres o frasluniau beirniadol.
- Odlau Serch a Bywyd (1907). Cerddi.
- Egin llenorion Cymreig
- Beirdd Cymraeg
- Cenedlaetholdeb Cymreig
- Cyfreithwyr Cymreig
- Dychanwyr Cymreig
- Genedigaethau 1845
- Llenorion Cymreig yn yr iaith Saesneg
- Llenorion Cymreig y 19eg ganrif
- Llenorion Cymreig yr 20fed ganrif
- Marwolaethau 1914
- Newyddiadurwyr Cymreig
- Nofelwyr Cymreig
- Nofelwyr Saesneg
- Pobl o Aberdâr
- Rhyddfrydiaeth