Rose Davies

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rose Davies
Rose.PNG
Rose Davies yn cyflwyno gwobr i un o ddisgyblion Ysgol y Bechgyn, Aberdâr.
Ganwyd 16 Medi 1882 Edit this on Wikidata
Aberdâr Edit this on Wikidata
Bu farw 13 Rhagfyr 1958 Edit this on Wikidata (76 oed)
Ysbyty Brenhinol Caerdydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Y Deyrnas Unedig, Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Athro Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Gwleidydd ymarferol sosialaidd a ffeminist oedd Florence Rose Davies (16 Medi 1882 - 13 Rhagfyr 1958), a oedd yn aelod o'r Blaid Lafur Annibynnol.[1]

Fe'i ganed yn 43 Heol Caerdydd, Aberdâr, Cwm Cynon ar 16 Medi 1882. Roedd ei thad, William Henry Rees, yn gweithio yn y diwydiant alcam lleol; Fanny (gynt Berry) oedd ei mham. Roedd yn un o saith o blant, a bu'r chwech ohonynt yn athrawon. Yn 1896 fe'i gwnaed yn 'fonitor' yn Ysgol Genedlaethol Tref Aberdâr sef yr ysgol gynradd, ac yna bu'n ddisgybl-athrawes yno, gan ddod yn ysgolfeistres gynorthwyol wedi hynny. Yno, enillodd gyflog o £40 y flwyddyn. Treuliodd Rose Davies rai blynyddoedd yn awyrgylch gwleidyddol streic hir a chwerw'r diwydiant glo yn 1898, ac yna gan etholiad Keir Hardie fel AS y Blaid Lafur Annibynnol dros Ferthyr Tudful yn etholiad cyffredinol 1900.[1]

Roedd y ffotograffydd J. Lendon Berry yn daid iddi.[1]

Priodi a gwleidyddiaeth cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1906 ymunodd gyda'r Blaid Lafur Annibynol, wedi iddi gael ei hysbrydoli gan Keir Hardy. Ddwy flynedd yn ddiweddarach priododd priododd Edward (neu "Ted") Davies, a oedd hefyd yn athro ac yn weithgar o fewn mudiad cydweithredol lleol. Tua'r un adeg dewiswyd Rose Davies yn ysgrifennydd cyntaf Gild Cydweithredol y Merched yn Aberdâr, gan barhau yn y swydd hyd nes i bwysau gwaith ei gorfodi i ymddiswyddo ym 1920. Ymddiswyddodd hefyd fel athrawes adeg ei phriodas, yn unol â threfn orfodol yr oes, ond yn fuan iawn cafodd ei chyfethol fel aelod o Bwyllgor Addysg Cyngor Tref Aberdâr. Ychydig wedyn daeth yn aelod o fwrdd llywodraethol y ddwy ysgol ramadeg, yn y dref. Erbyn 1915 Rose Davies oedd cadeirydd y pwyllgor addysg leol, a datblygodd ddiddordeb arbennig mewn darparu cyfleusterau addysg ar gyfer disgyblion dall, plant mud a byddar ac yna plant gydag anabledd meddyliol. Ganed y cyntaf o'i phum plentyn hithau ym 1910.[2]

Wedi'r Ail Ryfel Byd[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeth yn gyfeillgar iawn gyda Keir Hardie AS,yn wleidyddol ac yn bersonol, a bu'r ddau ohonynt yn cynorthwyo ei ymgyrchoedd lleol yn y ddau etholiad cyffredinol a gynhaliwyd ym 1910. Bu helbulon blynyddoedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn gyfrifol am ei gwthio i dderbyn cyfrifoldebau cyhoeddus pellach, gan gynnwys aelodaeth o'r Tribiwnlys Milwrol. Erbyn 1918 etholwyd hi'n gadeirydd Cyngor Masnach a Llafur Aberdâr, y wraig gyntaf i esgyn i'r safle hwn, ac yn 1920 dewiswyd hi yn Ynad Heddwch. Ym 1919 safodd Davies yn aflwyddiannus fel yr ymgeisydd Llafur ar gyfer ward tref Aberdâr o Gyngor Dinesig Aberdâr, ond cafodd ei hethol i gynrychioli ward y Gadlys, ardal fwy dosbarth gweithiol ei natur, y flwyddyn wedyn. Yn ystod ei hymgyrchoedd etholiadol lleol bu'n pwysleisio'r angen am well gwasanaethau genedigaeth a dulliau o atal cenhedlu. Ym 1925 etholwyd Davies yn gynghorydd Llafur ar gyfer ward Aberaman (Aberdâr) o Gyngor Sir Forgannwg - y ferch gyntaf erioed i ddal sedd ar y cyngor. Yn fuan etholwyd hi yn henadur y cyngor. Rhwng 1919 a 1926 bu hefyd yn aelod o Gyngor Ymgynghorol Gymreig y Bwrdd Iechyd, corff a ddiddymwyd gan Neville Chamberlain pan ddaeth yn Weinidog Iechyd ym 1926.[1]

Yn ystod y 1920au cynnar bu Davies yn flaenllaw yn yr ymgais i sefydlu trefniadaeth y Blaid Lafur Annibynnol o fewn etholaeth seneddol newydd Aberdâr, a hi a etholwyd yn ysgrifenyddes gyntaf Cyngor Ymgynghorol Merched Llafur Dwyrain Morgannwg. Roedd yn frwd ei chefnogaeth i ehangu addysg wleidyddol merched. Daeth hefyd yn weithgar o fewn Urdd Gydweithredol y Merched, rhychwant eang o fudiadau heddwch y 1920au, a nifer o fudiadau merched ledled Cymru. Bu hi hefyd yn cymryd rhan flaenllaw yn paratoi'r gofeb heddwch uchelgeisiol oddi wrth ferched Cymru i ferched yr Unol Daleithiau. Daeth Davies yn edmygydd mawr o safiad a gweithgarwch George M. Ll. Davies.[1]

Yn etholiad cyffredinol 30 Mai 1929, safodd Rose Davies fel yr ymgeisydd Llafur cyntaf erioed ar gyfer etholaeth Honiton, Swydd Dyfnaint, ond 915 o bleidleisiau'n unig a enillodd yno, 2.6 y cant o'r cyfanswm, felly collodd ei hernes. Pleidleisio'n dactegol i'r ymgeisydd Rhyddfrydol wnaeth y rhan fwyaf yn yr etholiad sef i: J. G. H. Halse. Eto i gyd ymfalchïai ei bod wedi "hau'r hadau" mewn tiriogaeth mor anaddawol i'r Blaid Lafur.[1]

Ym 1925 dewiswyd hi yn llywodraethwr Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a Choleg Prifysgol De Cymru a Mynwy, Caerdydd. Roedd hefyd yn amlwg yng ngweithgareddau'r Gymdeithas Goffa Genedlaethol Gymreig. Bu'n gadeirydd yn ei thro ar bob pwyllgor Cyngor Sir Morgannwg, ac yn ddiweddarach etholwyd hi'n gadeirydd ar y cyngor. Wedi marwolaeth ei gŵr ym 1951 daeth yn fwy gweithgar fyth ym mywyd cyhoeddus yr ardal, yn enwedig yn yr ymgyrch i sefydlu ysgol arbennig ar gyfer plant mud a byddar ym Mhenarth yn y 1950au. Roedd yn mynychu nifer aruthrol o gyfarfodydd cyhoeddus yn Aberdâr a Chaerdydd, gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus leol yn ddi-ffael, a bu hefyd yn teithio ar y trên i fynychu cyfarfodydd gwleidyddol a chyhoeddus mewn dinasoedd llai cyfleus fel Birmingham a Manceinion.[1]

Dyfarnwyd iddi'r MBE ym 1934 a'r CBE ym 1954.[1]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn yr ysbyty yng Nghaerdydd, yn 76 mlwydd oed; cafwyd angladd cyhoeddus yn eglwys St Elvan, Aberdâr ar 17 Rhagfyr, gydag amlosgi'n dilyn yng Nglyn Taf, Pontypridd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 1.8 Cymdeithas Hanes Cwm Cynon; adalwyd Ebrill 2016.
  2. oxforddnb.com; adalwyd Ebrill 2016